Ymgyrch i godi arian am driniaeth canser arbenigol i ddynes o Wynedd yn codi dros £85,000

Meinir Siencyn

Mae ymgyrch i godi arian er mwyn i ddynes o Wynedd allu derbyn triniaeth canser arbenigol yn yr Almaen wedi codi bron i £90,000.

Mae gan Meinir Siencyn o Lanberis ganser Cam 4 yn ei hesgyrn a'i bron, ac nid yw meddygon yn disgwyl iddi wella o’r cyflwr.

Mae ei phartner, Emyr Davies, wedi dechrau ymgyrch i ariannu triniaeth mewn canolfan ganser arbenigol yn yr Almaen.

Y nod yw codi £150,000 er mwyn talu am gostau’r driniaeth, yn ogystal â’r daith yno a’r gofal ychwanegol sydd ei hangen ar Meinir.

Dywedodd Emyr: “Yn ddiweddar, mae hi wedi derbyn ymgynghoriadau positif a hynod gadarnhaol gyda chanolfan ganser arbenigol yn yr Almaen, sydd yn cynnig opsiynau triniaeth penodol nad yw ar gael drwy’r Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd. 

“Mae’r triniaethau rhain y tu hwnt i beth mae’r GIG yn gallu eu hariannu, ond maen nhw wedi rhoi gobaith gwirioneddol i Meinir.

“Mae hi’n teimlo’n gryf bod y driniaeth hon yn cynnig cyfle i ymateb yn bositif i’w salwch a byw gweddill ei bywyd yn mor llawn a sy’n bosib.

“Mae amser yn brin ac mae ei chyflwr yn parhau i wanhau.”

Mewn neges ar y dudalen, dywedodd Meinir: "Mae hyn wedi dod yn uffar o sioc i fi, a fyswn i yn hynod ddiolchgar os allwch helpu mewn unrhyw ffordd.

“Bydd y pres yn mynd tuag at driniaeth newydd sydd yn mynd i helpu fi wella.”

Mae tudalen GoFundMe bellach wedi ei sefydlu, gyda dros 1,700 o roddion wedi eu rhoi hyd yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.