Ymgyrch filwrol America yn erbyn Iran i 'dyfu'n sylweddol'
Fe fydd ymgyrch filwrol lluoedd America yn erbyn Iran yn “tyfu'n sylweddol”, yn ôl Ysgrifennydd Amddiffyn y wlad, Pete Hegseth.
Wrth i’r rhyfel rhwng America ac Israel gydag Iran gyrraedd ei seithfed diwrnod, fe rybuddiodd Mr Hegseth y byddai’r ymgyrch yn “dwysáu yn gyflym”.
“Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi gweld rhywbeth hyd yma, gwyliwch am beth sydd i ddod,” meddai wrth ohebwyr mewn cynhadledd yng Nghanolfan Rheoli Milwrol Canolog yn Tampa, Florida.
Daw’r sylwadau wedi i Arlywydd y wlad, Donald Trump, ddweud bod lluoedd America ac Israel yn “llwyr ddinistrio” Iran.
“Mae’r Llynges wedi mynd. Mae 24 o longau wedi mynd mewn tri diwrnod, mae hynny’n nifer fawr o longau,” meddai Mr Trump wrth ohebwyr.
“Nid oes ganddynt awyrlu bellach, nid oes ganddynt amddiffyniad rhag ymosodiadau o’r awyr. Mae eu holl awyrennau wedi mynd.”
Fe awgrymodd hefyd bod yr awdurdodau yn Iran yn barod i ddod i gytundeb er mwyn dod â’r rhyfel i ben, ond dywedodd Mr Trump: “Rydym ni eisiau parhau â’r brwydro mwy ‘na nhw erbyn hyn.”
Mae Gwarchodlu Chwyldroadol Iran wedi dweud y byddai’n cychwyn ar “gymal newydd” yn ei ymgyrch filwrol yn erbyn Israel.
Yn ôl cyfryngau’r wlad, mae swyddogion wedi gosod targedau yng nghanol dinas Tel Aviv gan ddefnyddio ymosodiadau gyda thaflegrau a dronau.
Mae Israel yn dweud ei bod wedi cychwyn ar “gyfnod newydd” yn ei hymgyrch milwrol ym mhrif ddinas Libanus, Beirut, er mwyn “dinistrio’r” grŵp milwrol, Hezbollah.
Mae bron i hanner o drigolion y ddinas wedi derbyn rhybudd gan luoedd Israel i adael y ddinas bellach.
Mae Gweinyddiaeth Iechyd Libanus yn adrodd fod 123 o bobl wedi marw yn sgil y gwrthdaro rhwng Israel ac Hezbollah, gyda 683 o bobl wedi’u hanafu.
Awyren yn glanio ym Mhrydain
Dros nos, fe wnaeth yr awyren gyntaf o ddinasyddion Prydeinig oedd yn ceisio gadael y Dwyrain Canol lanio ym Mhrydain.
Roedd yr hediad wedi ei oedi ddydd Iau oherwydd problemau technegol, ond fe laniodd ym maes awyr Stansed toc cyn 01.00 fore Gwener.
Mae dros 140,000 o ddinasyddion Prydeinig yn y rhanbarth wedi cofrestru gyda Swyddfa Tramor y Llywodraeth, wedi i luoedd Iran dargedu sawl gwlad yn y Dwyrain Canol wedi cyrchoedd America ac Israel.
Ar ôl cyhoeddi y byddai’r HMS Dragon yn cael ei hanfon i Cyprus, mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud y byddai dau hofrennydd yn cael eu hanfon i’r wlad ddydd Gwener.
Fe fydd yr hofrenyddion Wildcat yn cynorthwyo ymdrechion i amddiffyn gorsaf RAF Akrotiri, yn dilyn ymosodiad gan ddrôn ar y safle yn gynharach yr wythnos hon.
Mae Mr Starmer wedi dweud y byddai pedair awyren Typhoon ychwanegol yn ymuno â’r sgwadron Brydeinig yn Qatar yn ogystal.