Dros £250,000 yn cael ei godi i deuluoedd heddweision a fu farw mewn gwrthdrawiad

Yr heddweision

Mae mwy na £250,000 wedi'i godi ar gyfer teuluoedd dau swyddog heddlu a fu farw mewn gwrthdrawiad yng ngogledd Lloegr.

Bu farw PC Matthew Blades, 37 oed, a PC Tom Clough, 38 oed, mewn gwrthdrawiad a laddodd saith o bobl ar yr A66 yng ngogledd-ddwyrain Lloegr fore dydd Sadwrn.

Mae ymgyrch codi arian a sefydlwyd gan Ffederasiwn Heddlu Cleveland ddydd Sul wedi cyrraedd cyfanswm o £228,000 erbyn fore Llun.

Dywedodd y trefnwyr y byddai'r arian a godwyd yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng teuluoedd y ddau swyddog, a bod y ffederasiwn yn bwriadu parhau i ddarparu cymorth.

Roedd ail ymgyrch codi arian ar-lein ar gyfer y teuluoedd wedi codi mwy na £27,600.

Mewn teyrnged dywedodd gwraig PC Blades fod y boen o'i golli "y tu hwnt i eiriau".

“Ni fydd unrhyw eiriau byth yn teimlo fel y geiriau iawn i anrhydeddu ein Matt, fy ngŵr annwyl, fy ffrind gorau a’r tad mwyaf ymroddedig i’n dau fachgen ifanc," meddai.

“Roedd yn fab ac yn frawd annwyl, yn fab-yng-nghyfraith perffaith ac yn ewythr llawn hwyl. Roedd ei deulu a’i ffrindiau i gyd yn ei garu y tu hwnt i eiriau, ac mae ei golli wedi gadael bwlch na ellir byth ei lenwi.

“Fe roddodd ei fywyd wrth gyflawni ei ddyletswydd, gan amddiffyn a gwasanaethu eraill gyda dewrder, ymroddiad ac anhunanoldeb.

“Mae’r boen o’i golli y tu hwnt i eiriau, ac ni fydd ein bywydau byth yr un fath. Ond ni fydd y cariad a roddodd i ni byth yn pylu chwaith.

Dywedodd teulu PC  Clough, a oedd yn 38 oed, ei fod yn “arwr”, a oedd “bob amser yn gwasanaethu’r cyhoedd drwy gydol ei fywyd byr”.

“Ef oedd ein harwr, ac roedd ganddo synnwyr digrifwch gwych,” meddai teyrnged a gafodd ei rhyddhau drwy Heddlu Cleveland. 

“Roedd bob amser yn barod i weithredu pan oedd angen, ac yn fodlon helpu unrhyw un am unrhyw reswm. 

“Fe wnaeth frwydro dros ei wlad gyda balchder er mwyn gwneud y byd yn lle gwell. Roedd bob amser yn gwasanaethu’r cyhoedd drwy gydol ei fywyd byr.

Ymchwiliad

Bu farw pum person ifanc sef Michael Robert Cahill, 23 oed, Theo Rae, 17 oed, Cole Robert Worthy, 16 oed, Jacob Matusiak, 23 oed, a Makai Saddington, 18 oed yn y gwrthdrawiad.

Roedden nhw mewn Volkswagen Passat a oedd yn teithio i’r cyfeiriad anghywir ar y ffordd ddeuol ger Middlesbrough.

Mae Swyddogion Cyswllt Teuluol yn parhau i weithio gyda theuluoedd pawb a fu farw yn y gwrthdrawiad.

Image
Y pum person ifanc fu farw
Y pum person ifanc a fu farw

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi agor ymchwiliad i’r amgylchiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad yn South Bank am 03:39. 

Fe ddigwyddodd hynny ar ôl i Heddlu Cleveland gyfeirio’r mater at y corff, fel sy’n ofynnol o dan yr amgylchiadau hyn.

Fe wnaeth swyddogion heddlu weld cerbyd amheus ac fe ddechreuon nhw fynd ar ei ôl cyn i’r car fynd ar yr A66, meddai’r corff gwarchod.

Yn ôl yr IOPC, roedd swyddogion wedi rhoi’r gorau i fynd ar ôl y car eiliadau cyn iddo wrthdaro â'r cerbyd heddlu arall.

Y gred oedd bod y Passat yn defnyddio platiau cofrestru ffug, gan sbarduno systemau adnabod platiau rhif awtomatig (ANPR).

Mewn datganiad brynhawn Sadwrn, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Cleveland, Victoria Fuller: “Roedd y rhain yn swyddogion dewr a oedd yn diogelu ein cymunedau ac yn gwasanaethu ein trigolion.

“Wnaethon nhw ddim dychwelyd adref at eu teuluoedd ar ddiwedd eu sifft.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Andy Burnham, ei fod wedi’i lorio o glywed am y gwrthdrawiad.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, wedi dweud ei bod yn meddwl am bawb sydd wedi cael eu heffeithio.

Image
Safle y gwrthdrawiad
Safle y gwrthdrawiad

Wrth sôn am y ddau heddwas a fu farw, dywedodd Anna Turley, AS etholaeth Redcar lle digwyddodd y gwrthdrawiad: “Fe aethon nhw i’r gwaith i gadw pobl yn ddiogel, ac fe ddylen nhw fod wedi dychwelyd adref at eu teuluoedd.

“Bydd eu hanwyliaid, eu cyd-swyddogion a’r cymunedau roedden nhw’n eu gwasanaethu yn teimlo eu colled yn fawr.”

Dywedodd cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cleveland, Lauren Somerville: "Ni all geiriau ddisgrifio’r boen y mae teulu Heddlu Cleveland yn ei theimlo heddiw.

"Dydy ein cydweithwyr, a ddylai fod wedi mynd adref at eu hanwyliaid ar ddiwedd eu sifftiau, ddim yn mynd adref. Mae hynny’n gwbl annirnadwy."

Fe wnaeth heddluoedd eraill anfon eu cydymdeimlad ar ôl y drasiedi.

Dywedodd Heddlu De Cymru: "Mae ein meddyliau gyda'n cydweithwyr yn Cleveland a gyda'r holl rai a effeithiwyd gan y digwyddiad yng nghynnwrf y bore yma."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.