Ymgeisydd seneddol a chyn-bennaeth ymgyrchu'r Ceidwadwyr yn cyfaddef twyllo wrth fetio ar etholiad
Mae cyn-gyfarwyddwr ymgyrchu’r Blaid Geidwadol a’i wraig, oedd yn ymgeisydd seneddol, wedi cyfaddef twyllo wrth fetio ar ddyddiad etholiad cyffredinol 2024.
Fe wnaeth Anthony Lee, 49 oed, gyfaddef dau gyhuddiad o dwyllo wrth iddo ymddangos yn Llys y Goron Southwark ddydd Iau.
Roedd ei wraig, Laura Saunders, 38 oed, yn sefyll wrth ei ochr ac fe wnaeth hithau gyfaddef un cyhuddiad o dwyllo.
Yn 2024, Lee oedd cyfarwyddwr ymgyrchu’r Ceidwadwyr. Roedd yn gyfrifol am ddyrannu adnoddau ar gyfer yr etholiad cyffredinol a gafodd ei gynnal ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno.
Saunders oedd pennaeth materion rhyngwladol ym mhencadlys y Blaid Geidwadol, ac roedd wedi cael ei dewis yn ymgeisydd seneddol ar gyfer Gogledd-orllewin Bryste.
Fe wnaeth hi ymddangos yn y llys dan ei henw priod, Laura Lee.
Daw eu pleon euog ar ôl i Craig Williams ac Amy Hind hefyd gyfaddef twyllo wrth fetio.
Roedd Williams, cyn-AS Ceidwadol dros Maldwyn a Gogledd Caerdydd, yn ysgrifennydd seneddol preifat i Rishi Sunak.
Mae Hind yn wraig i Anthony Hind, dirprwy gyfarwyddwr digidol y Ceidwadwyr.
Cafodd pob un eu cyhuddo ar ôl ymchwiliad i honiadau bod gwybodaeth fewnol am ddyddiad etholiad cyffredinol 2024 wedi cael ei defnyddio i osod betiau.
Mae disgwyl i Hind, Lee a Saunders gael eu dedfrydu yn yr un llys ar 23 Hydref.
Mae disgwyl i Williams gael ei ddedfrydu ar ôl achosion llys ym mis Medi 2027 a mis Ionawr 2028.
Bydd swyddogion eraill y blaid a phobl â chysylltiadau mewnol, sydd hefyd wedi’u cyhuddo o dwyllo wrth fetio, yn wynebu achos llys bryd hynny.