Ymgeisydd Reform ar gyfer etholiad y Senedd yn camu i lawr wedi llun sarhaus

Corey Edwards,

Mae ymgeisydd Reform ar gyfer etholiad y Senedd wedi camu lawr, wedi i lun ddod i'r amlwg sy'n ymddangos fel pe bai'n gwneud saliwt Natsïaidd. 

Ni fydd Corey Edwards bellach yn ymgeisydd y blaid ar gyfer etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg ar gyfer yr etholiad ar 7 Mai.

Mae llun yn dangos Mr Edwards, sydd yn gyn-gynghorydd gweinidogol i'r Ceidwadwyr, gyda'i fraich dde yn yr awyr gyda bys o dan ei drwyn. 

Image
Corey Edwards
Roedd Mr Edwards yn cynrychioli plaid Reform UK mewn rhifyn arbennig o'r rhaglen Pawb a'i Farn ar S4C yn gynharach yn y mis

Roedd Arweinydd Reform UK, Nigel Farage wedi ceisio amddiffyn Mr Edwards ddydd Iau, gan awgrymu y gallai fod wedi bod yn dynwared Basil Fawlty, prif gymeriad y gyfres deledu gomedi Fawlty Towers yn y 1970au.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd llefarydd ar ran Reform UK yng Nghymru: "Mae Corey Edwards wedi rhoi gwybod i ni ei fod yn camu lawr fel ymgeisydd ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai, gan roi rhesymau yn ymwneud â'i iechyd meddwl. 

"Rydym yn dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol ac yn gobeithio y gall ei breifatrwydd gael ei barchu yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.