John Toshack yn gwadu derbyn diagnosis o ddementia
Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, John Toshack wedi gwadu honiadau sydd wedi eu gwneud gan ei fab, sef ei fod wedi cael diagnosis o ddementia.
Ddydd Mercher fe wnaeth mab John Toshack, Cameron gyhoeddiad fod ei dad wedi derbyn diagnosis o ddementia.
Ond mae John Toshack bellach wedi gwadu fod ganddo'r cyflwr wrth siarad â phapur newydd El Mundo yn Sbaen.
“Dementia? Dim eto. Dw’i wedi anghofio'r holl goliau wnes i fethu, ond ‘dwi’n cofio'r rhai wnes i sgorio yn berffaith,”meddai.
Mewn cyfweliad ar wahân gyda phapur newydd El Diario Vasco, fe ddywedodd gwraig Toshack, Mai Angulo, ei bod hi wedi’i synnu gan sylwadau Cameron, a bod ei gŵr wedi wedi ei frifo o ganlyniad i’r pryder mae’r sylwadau wedi’i achosi.
“Tydi Cameron ddim ond yn siarad gyda’i dad yn achlysurol ar y ffôn,” meddai.
“Tydi o ddim wedi gweld ei dad ers dwy flynedd.”
Fe ddywedodd Cameron Toshack mewn cyfweliad gyda’r Daily Mail fod ei dad wedi derbyn diagnosis o ddementia, gan honni ei fod yn cael “diwrnodau da a diwrnodau drwg”.
Mae Cameron Toshack yn gweithio fel rheolwr cynorthwyol i dîm pêl-droed Buriram United yng Ngwlad Thai.
Dywedodd mai cof tymor-byr ei dad oedd wedi’i effeithio fwyaf oherwydd y cyflwr.
“Dwi’n siarad ag ef bron bob dydd, ac os byddwn yn sgwrsio yn y prynhawn, efallai na fydd yn cofio ein bod ni wedi siarad yn y bore,” meddai.
Ond mae gwraig John Toshack yn dweud bod ei broblemau cof o ganlyniad i gymhlethdodau yn ymwneud â sgil effeithiau tymor hir Covid-19.
Yn 2022, treuliodd bythefnos yn yr uned gofal dwys ar ôl dioddef o niwmonia.
“Mae’n wir fod Covid wedi ei adael gydag sgil-effeithiau difrifol iawn - rhai corfforol a meddyliol. Mae pawb yn gallu gweld hynny," meddai.
“Ni allwn ni anghofio ein bod wedi mynd trwy gyfnod ofnadwy, tra’r oedd John yn yr Uned Gofal Dwys.”
Fe chwaraeodd Toshack dros Gymru 40 o weithiau ac roedd yn reolwr ar y tîm cenedlaethol yn 1994 a rhwng 2004 a 2010.
Fe wnaeth reoli Real Madrid rhwng 1989-1990, ac yn 1999. Yn ystod ei gyfnod yno fe enillodd deitl La Liga unwaith.
Roedd yn rheolwr ar Real Sociedad ar dri achlysur gan ennill y Copa del Rey unwaith.
Gwnaeth Toshack 397 o ymddangosiadau yn ystod ei yrfa, a hynny i glybiau Caerdydd, Lerpwl ac Abertawe.