‘Yr Ymerodraeth Brydeinig yn beth da’ meddai Aelod o’r Senedd

Joe Martin

Mae un o aelodau Reform o’r Senedd wedi dweud bod yr Ymerodraeth Brydeinig yn beth da.

Fe gafodd sylwadau AS Reform dros Caerdydd Penarth, Joe Martin, eu condemnio fel rhai a fyddai yn creu “braw ac ofn” gan y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd bod “dad-drefedigaethu hanes Cymru yn ymosodiad ar hunaniaeth Gymreig”.

Yn y pen draw, roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn rym er daioni yn y byd, ac roedd y Cymry wedi chwarae rhan bwysig wrth ddod â thechnoleg, addysg, cyfraith gyffredin, democratiaeth a delfrydau Cristnogol, fel rhoi’r lle blaenaf i’r gwirionedd ac urddas bywyd pob unigolyn, i bobloedd a diwylliannau nad oedd ganddyn nhw gysyniadau o’r fath o’r blaen,” meddai.

“Yn wir, heb drefedigaethu Prydeinig, byddai caethwasiaeth wedi parhau ar draws y byd heb leihau o gwbl. 

“Yn hytrach na dad-drefedigaethu hanes, dylem ni ei adrodd yn onest, a byddai hynny’n golygu cydnabod mai cydwybod yr Ymerodraeth Brydeinig, yn ystod y cyfnod trefedigaethu, oedd y fwyaf soffistigedig yn foesol y mae’r byd erioed wedi’i hadnabod.”

Ychwanegodd bod “defnyddio safonau moesol cyfoes i farnu’r ymerodraeth” yn “arfer hanesyddol gwael”.

Dywedodd ei fod “hefyd yn dangos anniolchgarwch aruthrol tuag at y rhai a roddodd inni’r syniadau rydym bellach yn eu cymryd yn ganiataol”.

‘Moesegol’

Fe ymatebodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon Heledd Fychan ei bod hi’n “ymbellhau oddi wrth bob un o’r sylwadau a wnaed”.

“Byddwn i’n awgrymu bod yr Aelod yn cymryd yr amser i siarad â phobl y mae’n eu cynrychioli, a fydd yn teimlo braw ac ofn o glywed rhai o’r sylwadau a wnaed,” meddai.

“Byddwn i hefyd yn gofyn iddo gofio bod ein gwahanol sefydliadau diwylliannol, ein hamgueddfeydd, er enghraifft, yn gweithredu o dan god moeseg, a’u bod yn gweithio’n foesegol. 

“A dyna rwy’n ei ofyn gan unrhyw sefydliad sy’n cael arian cyhoeddus: gweithio yn unol â’r egwyddorion moesegol y mae’n rhwym wrthyn nhw, bod yn barchus a bod yn ystyriol, fel y mae’n rhaid i ninnau ei wneud o dan god ymddygiad yr Aelodau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.