Ymchwiliad llofruddiaethau Harry a Megan Tooze: Rhyddhau dyn 87 oed heb unrhyw gamau pellach
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi fod dyn 87 oed a gafodd ei arestio ym mis Rhagfyr y llynedd mewn cysylltiad â llofruddiaethau Harry a Megan Tooze ym 1993 wedi cael ei ryddhau heb unrhyw gamau pellach.
Cafodd y cwpl eu canfod yn farw gydag anafiadau saethu yn eu ffermdy yn Llanhari, Rhondda Cynon Taf, ar 26 Gorffennaf 1993.
Dechreuodd yr heddlu adolygiad fforensig o'r achos yn 2023 ac fe wnaeth ditectifs arestio dyn ym mis Rhagfyr y llynedd cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mewn diweddariad fore Gwener, dywedodd yr heddlu fod y dyn wedi cael gwybod nad yw bellach dan ymchwiliad ac mae wedi ei ryddhau heb unrhyw gamau pellach.
Ychwanegodd y llu fod yr adolygiad fforensig o'r achos sy'n cael ei arwain gan y Tîm Ymchwilio i Droseddau Difrifol yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Brifarolygydd Mark O'Shea: "Rydym yn parhau wedi ein hymrwymo i ddatrys y llofruddiaethau ofnadwy hyn a ddigwyddodd dros 30 mlynedd yn ôl.
"Dyw hi byth yn rhy hwyr i rannu gwybodaeth - hyd yn oed ar ôl yr amser yma, rwy'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y llofruddiaethau i ddod ymlaen a siarad â ni, oherwydd gallai'r wybodaeth sydd ganddynt ein helpu i sicrhau cyfiawnder i'r teulu."
Mae teulu Harry a Megan Tooze yn cael eu cefnogi ac yn cael eu diweddaru yn gyson yn ôl y llu.
Ar fore Llun 26 Gorffennaf 1993, gadawodd Harry a Megan eu fferm i gasglu eu pensiynau yn Llanhari a gwelwyd nhw'n cyrraedd yn ôl am 11:00.
Tua 13:30, clywodd cymdogion ddwy ergyd gwn ond nid oedd hyn yn cael ei ystyried yn anarferol ar fferm.
Galwyd yr heddlu pan na chafodd galwad ffôn gan eu merch ei hateb.
Aeth swyddogion i'r fferm a darganfod cyrff Harry a Megan mewn sied wartheg.