Ymchwiliad llofruddiaeth: Teyrnged teulu i ddyn fu farw yn y Fenni
Mae teulu dyn y mae ei farwolaeth yn destun ymchwiliad llofruddiaeth wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Idris Squires, 24 oed, o’r Fenni, ar ôl digwyddiad ar Ffordd Henffordd y Fenni ddydd Gwener 15 Mai.
Mae Liam Bennett, 27 oed, o Oak Tree Lane, Gilwern, wedi’i gyhuddo o’i lofruddio.
Mae teulu Idris yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae’r teulu wedi rhoi deyrnged iddo: “Roedd Idris yn fab annwyl iawn.
“Does dim modd i ni ddechrau mynegi’r golled rydyn ni’n ei theimlo, ynghyd â gweddill ei deulu sydd wedi ei garu a’i gefnogi drwy gydol ei fywyd - bywyd sydd wedi dod i ben mewn ffordd mor drasig.
“Yn 24 oed yn unig, dim ond dechrau ar daith bywyd oedd e, ond yn ei gyfnod byr gyda ni fe gafodd effaith hynod gadarnhaol ar fywydau cymaint o bobl.
“Roedd Idris yn gwneud ffrindiau’n hawdd ac roedd ganddo gylch mawr o ffrindiau yr oedd yn poeni’n fawr amdanyn nhw, ac roedden nhw’n teimlo’r un fath.
“Rydyn ni wedi cael ein llethu gan gannoedd o negeseuon o gefnogaeth gan gymaint o ffrindiau ifanc Idris.
“Ef oedd un o’r bobl fwyaf caredig, cariadus a chynnes y gallech chi obeithio ei gyfarfod.
“Doedd e byth yn meddwl ddwywaith am helpu eraill, boed nhw’n ifanc neu’n hen; roedd ganddo’r reddf i wneud y peth iawn.
“Rydyn ni’n falch o’i rodd o roi organau. Mae’r ffaith iddo ddewis bod ar y gofrestr rhoddwyr yn dweud cyfrolau am y dyn oedd e.
“Er ein bod ni wedi ein llethu gan alar ar ôl colli dyn ifanc mor wych, rydyn ni’n cael cysur o gofio’r cariad, y chwerthin a’r caredigrwydd a rannodd gyda’r rhai y daeth ar eu traws.
“Bydd e yn ein meddyliau ac yn ein calonnau am byth.”