Yr Wyddfa: Cerddwyr blinedig 'yn meddwl y bydd y trên yn eu cludo i lawr y mynydd'

Tîm Achub Mynydd Llanberis

Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi rhybuddio dringwyr na allent “ddisgwyl cael eu cludo i lawr ar y trên os ydynt yn dechrau teimlo’n flinedig ar y ffordd i fyny’r Wyddfa.”

Mae’r tîm wedi rhybuddio cerddwyr bod yn rhaid archebu lle ar drên yr Wyddfa yn lle dibynnu ar gael eu cludo i lawr y mynydd ar y funud olaf.

“Rydym eisiau atgoffa pobl na allant ddisgwyl cael eu cludo i lawr ar y trên os ydynt yn dechrau teimlo’n flinedig ar y ffordd i fyny’r Wyddfa,” meddai’r llefarydd.

“Rydym wedi cael un neu ddau o ddigwyddiadau’n ddiweddar lle’r oedd pobl yn meddwl y byddent yn gallu gwneud hyn. 

“Mae teithiau ar y trên wedi eu harchebu ymlaen llaw, felly os ydych chi’n cynllunio llwybr ar y mynydd, mae’n bwysig gwneud yn siŵr fod gennych chi’r amser, y ffitrwydd a’r offer angenrheidiol ar gyfer y diwrnod sydd o’ch blaen.”

Roedd Ebrill yn “fis prysur arall” i’r tîm o wirfoddolwyr, ar ôl derbyn 33 o alwadau yn ystod mis Ebrill, gan ymateb i 19.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd llefarydd ar ran y tîm: “Roedd y ffactorau cyffredin a gyfrannodd at hyn yn cynnwys camgymeriad dynol, gwneud penderfyniadau gwael a diffyg profiad mewn amgylcheddau mynyddig.

“Fel bob amser, gallai nifer o ddigwyddiadau fod wedi cael eu hosgoi drwy baratoi’n well a chynllunio llwybr.”

Gyda rhagolygon am dywydd da dros benwythnos gŵyl y band, mae’r tîm yn rhagweld “ychydig o ddyddiau prysur ar y mynyddoedd” ac wedi rhybuddio cerddwyr y galla amodau ar y mynyddoedd newid yn sydyn.

Llun: Tîm Achub Mynydd Llanberis

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.