Wrecsam ar restr hir Dinas Diwylliant y DU 2029
Mae Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr hir ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2029.
Mae naw dinas ar draws y DU wedi cyrraedd y rhestr hir, a Wrecsam yw'r unig ddinas yng Nghymru.
Pe bai Wrecsam yn cipio teitl Dinas Diwylliant y DU 2029, fe fyddai'n gallu sicrhau £10 miliwn gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd Ymgyrch Wrecsam 2029 y byddai'r buddsoddiad yn gallu helpu i ddenu buddsoddiad, hybu twristiaeth a gwella mynediad at y celfyddydau a diwylliant yn yr ardal ac ar draws y rhanbarth.
Fe allai hefyd helpu cerddoriaeth a chwaraeon ar lawr gwlad a chefnogi pobl sy'n gweithio ac yn byw yn yr ardal, yn ôl yr ymgyrch.
Methodd Wrecsam â chipio'r teitl yng nghystadleuaeth 2025.
Yn ôl yr ymgyrch, fe allai'r buddsoddiad gynhyrchu mwy na £200 miliwn ar gyfer yr holl ranbarth yn y blynyddoedd i ddod.
Nid oes yr un ddinas yng Nghymru wedi ennill teitl Dinas Diwylliant y DU eto.
Dywedodd Amanda Evans, Cyfarwyddwr Cais Diwylliant Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr hir ac yn fwy brwdfrydig nag erioed i ennill teitl Dinas Diwylliant y DU ar gyfer 2029.
"Bydd ennill y cynnig yn helpu i sicrhau dyfodol cymdeithasol ac economaidd disglair i Wrecsam, gan ddod â chyfleoedd newydd i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal, yn ogystal â chefnogi ein sector celfyddydau a diwylliant mewn mwy o ffyrdd nag erioed o'r blaen.
"Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn, iawn i ni ac rydym yn ymrwymo popeth dros yr ychydig fisoedd nesaf i roi Wrecsam ar lwyfan byd-eang a dangos pam ein bod yn deilwng o ennill y teitl."
Fe fydd Wrecsam bellach yn cael ei gwahodd i gyflwyno cais llawn i Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU erbyn haf 2026.
Fe fydd rhestr fer o hyd at bedwar lle yn cael ei chyhoeddi ym mis Hydref eleni.
Rhestr hir Dinas Diwylliant y DU 2029:
- Wrecsam
- Inverness
- Ipswich
- Middlesbrough
- Milton Keynes
- Portsmouth
- Sheffield
- Swindon
- Blackpool