Wrecsam: Carcharu dyn ‘ffiaidd’ a achosodd anafiadau difrifol i fenyw wrth ei threisio
Rhybudd: Gall rhai manylion yn yr erthygl beri gofid.
Mae dyn “ffiaidd” 26 oed o Y Waun ger Wrecsam a achosodd anafiadau difrifol i fenyw wrth ei threisio wedi ei ddedfrydu i 18 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd Jordan Jones wrth y dioddefwr ei fod am ddangos iddi “beth all treisiwr ei wneud”, wrth iddo achosi anafiadau mewnol difrifol iddi.
Dywedodd y meddyg oedd yn trin y dioddefwr mai ei hanafiadau oedd y gwaethaf iddo eu gweld erioed.
Cafodd Jones ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun.
Roedd wedi cyfaddef naw trosedd, gan gynnwys pedwar cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o ymosodiad rhywiol, bygwth lladd, tagu bwriadol ac ymosod.
Cafodd ei garcharu am 18 mlynedd, gyda chyfnod estynedig o bum mlynedd ar drwydded.
Bydd Jones hefyd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am gyfnod amhenodol, ac mae gorchymyn atal wedi’i osod i amddiffyn y dioddefwr am weddill ei hoes.
Bygwth lladd
Ym mis Chwefror eleni, cafodd swyddogion adroddiad am fenyw mewn trallod yn ardal y Waun.
Roedd Jones wedi ymosod ar y dioddefwr a’i thagu. Pan oedd hi wedi ceisio dianc, roedd wedi’i llusgo i’r llawr, bygwth ei lladd a’i threisio.
Roedd hefyd wedi bygwth lladd y dioddefwr yn gynharach yr un noson.
Cafodd Jones ei ganfod mewn car gerllaw yn fuan ar ôl i’r heddlu gyrraedd, a’i arestio.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan ei ddedfrydu ddydd Llun.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl James Grimwood: “Roedd hwn yn ymosodiad hirfaith gan droseddwr cwbl ffiaidd a ddefnyddiodd drais creulon yn erbyn y dioddefwr.
“Gadawodd hynny anafiadau corfforol difrifol iawn iddi a thrallod emosiynol, ac nid yw wedi dangos unrhyw edifeirwch.
“Mae hi wedi dioddef trawma na ddylai neb byth orfod ei wynebu. Mae’r ffaith y bydd Jones, yn gwbl haeddiannol, yn treulio cyfnod sylweddol yn y carchar yn dyst i’w dewrder eithriadol hi. Yno, ni fydd yn gallu achosi rhagor o niwed.
“Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd iddi ac yn ei helpu i roi’r profiad y tu ôl iddi wrth iddi barhau i wella.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’m cydweithwyr am eu hymateb arwrol ar y noson.
“Roedden nhw’n gyflym i gyrraedd ac amddiffyn y dioddefwr, tra bod cydweithwyr eraill wedi gallu dal y diffynnydd heb oedi.
“Mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau Heddlu Gogledd Cymru.
“Rydym wedi ymrwymo i ganfod y rhai sy’n gyfrifol, sicrhau cyfiawnder, a gwneud yn siŵr bod dioddefwyr yn cael yr amddiffyniad a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.
“Byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i gadw ein cymunedau’n ddiogel.”
