O Wlad Pwyl i Gymru: Teithio dros 1,000 o filltiroedd i sefyll arholiad Cymraeg
Mae rheolwr Technoleg Gwybodaeth o Wlad Pwyl wedi teithio dros 1,000 o filltiroedd i Gymru i sefyll arholiad Cymraeg, ar ôl iddo syrthio mewn cariad â'r iaith wrth ei chlywed am y tro cyntaf mewn cynhadledd ryngwladol.
Clywodd Boleslaw Czyszak y Gymraeg am y tro cyntaf mewn cynhadledd amlieithog yn Brno, yn y Weriniaeth Tsiec, yn 2025.
Ers hynny, mae wedi dechrau dysgu'r iaith gyda Dysgu Cymraeg Gwent ac wedi ymweld â Chymru bum gwaith eleni.
Mae Boleslawn bellach yn dysgu Cymraeg ar lefel Sylfaen, ar ôl iddo deithio i Gymru i sefyll ei arholiad lefel Mynediad.
"Ar ôl clywed y Gymraeg yn y gynhadledd, ro'n i wedi gwirioni â'r iaith," meddai.
"Mi wnes i gofrestru ar gwrs oedd yn siwtio fy amserlen waith, ac mae Dysgu Cymraeg Gwent wedi bod yn ddewis gwych.
"Mae'r tiwtoriaid yn arbennig, yr awyrgylch yn groesawgar, a'r dysgwyr eraill mor gefnogol."
'Syrthio mewn cariad â Chymru'
Mae Boleslaw yn dysgu Cymraeg drwy Dysgu Cymraeg Gwent, sy'n cael ei drefnu gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Yn ogystal â mynd i wersi Cymraeg, mae wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau sgwrsio yn rhithiol, grwpiau darllen a sesiynau paratoi ar gyfer arholiadau.
Ond nid yw wedi cyfyngu ei brofiad o'r Gymraeg i wersi ar-lein.
Penderfynodd deithio o Wlad Pwyl i Gymru er mwyn sefyll ei arholiad Cymraeg lefel Mynediad.
"Roedd sefyll yr arholiad yng Nghymru yn brofiad gwefreiddiol, dwi wedi syrthio mewn cariad â Chymru," meddai.
"Pan ro'n i yng Nghymru, mi wnes i deithio ar drên Calon Cymru, mynd i Flaenafon, y Mwmbwls, Gŵyl Newydd yng Nghasnewydd a'r Eisteddfod Genedlaethol."
Mae hefyd wedi manteisio ar ei ymweliadau i ddarganfod mwy am ddiwylliant a hanes Cymru.
Ac mae'n bwriadu dychwelyd i Gymru ddwywaith arall cyn diwedd y flwyddyn.
Gwylio S4C a darllen y Mabinogi
Er ei fod yn byw dros fil o filltiroedd o Gymru, mae Boleslaw yn ceisio defnyddio'r Gymraeg gymaint â phosibl yn ei fywyd bob dydd.
Mae'n gwylio rhaglenni ar S4C, yn gwrando ar bodlediadau Cymraeg ac yn darllen y Mabinogi er mwyn gwella ei sgiliau iaith.
Mae hefyd yn awyddus i annog pobl eraill ledled y byd i roi cynnig ar ddysgu Cymraeg, waeth ble maen nhw'n byw.
"Os dych chi'n ystyried dysgu Cymraeg, ewch ati i gofrestru ar gwrs," meddai.
"Mi gewch chi groeso cynnes, a bydd yn brofiad gwerth chweil."