'Varteg nid Y Farteg': Cytuno ar restr o enwau Cymraeg ar ôl 13 mlynedd
Mae rhestr o enwau dwyieithog ar bentrefi a threfi yn Nhorfaen wedi cael ei chytuno, 13 mlynedd ar ôl i’r syniad gael ei gynnig.
Fe wnaeth y cynllun a gafodd ei gynnig yn 2013 achosi dadl yn lleol, gyda rhai yn gwrthwynebu’r cynnig i newid enw Cymraeg pentref Varteg, ar gyrion Pont-y-pŵl, i Y Farteg.
Roedd rhai yn pryderu ar y pryd y byddai’r enw, Y Farteg, yn destun gwawd, ac fe gytunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i ddefnyddio Varteg yn y ddwy iaith.
Er i’r rhestr ddiwygiedig gael ei hanfon at Gomisiynydd y Gymraeg yn 2013, ni chafodd yr enwau eu mabwysiadu ar lefel genedlaethol.
Ym mis Ionawr y llynedd, fe wnaeth y Comisiynydd gysylltu â’r cyngor er mwyn ailystyried y rhestr a cheisio dod i gytundeb.
Bellach, mae’r cyngor a’r Comisiynydd wedi cytuno ar restr o 54 o enwau lleoedd swyddogol yn y sir.
Mae’r rhestr yn cadarnhau y bydd Varteg yn parhau’n enw’r pentref yn y ddwy iaith.
Yng Nghwmbrân, fe fydd yr enw Fairwater yn parhau i gael ei ddefnyddio yn y ddwy iaith ar gyfer ardal yn ne-orllewin y dref, yn ogystal â’r enw Sebastopol, ar bentref rhwng Cwmbrân a Phont-y-pŵl a gafodd ei enwi ar ôl brwydr yn Rhyfel Crimea.
Dywedodd adroddiad gan swyddog polisi'r Gymraeg y cyngor, Alan Vernon-Jones, fod methu â mabwysiadu'r enwau ar lefel genedlaethol wedi achosi dryswch.
Dywedodd: “Er i ni anfon ein rhestr enwau at Gomisiynydd y Gymraeg, ni chawsant eu mabwysiadu ar lefel genedlaethol erioed.
“Mae hyn wedi achosi problemau yn y blynyddoedd diweddar, gan fod y rhan fwyaf o sefydliadau allanol yn edrych ar wefan y Comisiynydd am enwau Cymraeg swyddogol, yn hytrach nag ymgynghori â'r awdurdod lleol.”
Dywedodd Mr Vernon-Jones fod y broses wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl, yn dilyn y camau a gymerwyd ym mis Ionawr 2025, oherwydd bod y panel safoni yn cyfarfod ar adegau penodol o'r flwyddyn yn unig.
Dim ond wrth adnewyddu neu ailosod arwyddion yn unol â’r amserlen bresennol y bydd y cyngor yn ychwanegu’r enwau dwyieithog atynt.
Bydd y rhestr hefyd yn cael ei dosbarthu i dimau'r cyngor, a bydd staff a rheolwyr yn cael gwybod am y rhestr safonol y cytunwyd arni er mwyn sicrhau eu bod yn defnyddio'r enwau Cymraeg wrth gyflawni eu gwaith.
Rhestr lawn o enwau llefydd yn Nhorfaen yn Saesneg a Chymraeg:
Abersychan – Abersychan
Blaenavon – Blaenafon
Coed Eva – Coed Efa
Croesyceiliog – Croesyceiliog
Cwmavon – Cwmafon
Cwmbrân – Cwmbrân
Cwmfields – Caeau’r-cwm
Cwmoody – Cwmoody
Cwm-ynys-cou – Cwm-ynys-cou
Fairwater – Fairwater
Forgeside – Geryrefail
Garnyrerw – Garnyrerw
Garndiffaith – Garndiffaith
Greenmeadow – Dôl-werdd
Griffithstown – Griffithstown
Henllys – Henllys
Hollybush – Llwyncelyn
Llanfrechfa – Llanfrechfa
Llantarnam – Llantarnam
Llanyravon – Llanyrafon
Lower Race – Ras Isaf
New Inn – Y Dafarn Newydd
Northville – Pentre Uchaf
Oakfield – Caederw
Old Cwmbrân – Hen Gwmbrân
Old Furnace – Hen Ffwrnes
Pant-teg – Pant-teg
Pantygaseg – Pantygaseg
Pen-y-garn – Pen-y-garn
Penyrheol – Penyrheol
Pont-hir – Pont-hir
Pontnewydd – Pontnewydd
Pontnewynydd – Pontnewynydd
Pont-rhyd-yr-ynn – Pont-rhyd-yr-ynn
Pont-y-moel – Pont-y-moel
Pontypool – Pont-y-pŵl
Riverside – Glanyrafon
Sebastopol – Sebastopol
Snatchwood – Coed-llwyd
Southville – Pentre Isaf
Springvale – Dolffynnon
St Cadocs – Sant Cadog
St Dials – Sant Derfel
Tal-y-waun – Tal-y-waun
Thornhill – Bryneithin
Tranch – Y Transh
Trefethin – Trefddyn
Two Locks – Dwy-loc
Tŷ-canol – Tŷ-canol
Tŷ-coch – Tŷ-coch
Upper Cwmbrân – Cwmbrân Uchaf
Upper Race – Ras Uchaf
Varteg – Varteg
Waunfelin – Waunfelin