UNESCO yn defnyddio profiad Cymru i ddatblygu technoleg amlieithog
Mae Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd sy'n defnyddio profiad Cymru o ddod â'r Gymraeg i'r byd digidol fel enghraifft ryngwladol.
Y bwriad yw cefnogi gwasanaethau digidol amlieithog drwy dynnu ar arbenigedd Cymru o ran ymgorffori'r Gymraeg mewn gwefannau, apiau a gwasanaethau cyhoeddus.
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru fod Cymru yn helpu i lywio'r drafodaeth ryngwladol ynghylch ffyrdd o gryfhau'r defnydd o ieithoedd brodorol yn yr oes ddigidol.
Mae'r pecyn cymorth yn rhan o Ddegawd Rhyngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO. Bydd UNESCO yn rhannu profiad Cymru â gwledydd eraill sydd â llai o adnoddau er mwyn eu helpu i gryfhau eu hieithoedd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol UNESCO dros Gyfathrebu a Gwybodaeth, Mariya Gabriel:
"Gan dynnu ar brofiad Llywodraeth Cymru o integreiddio'r Gymraeg i lwyfannau digidol, bydd y Pecyn Cymorth Ymarferol hwn yn helpu pawb i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol mewn ffordd gyfartal, yn enwedig siaradwyr ieithoedd brodorol sydd â llai o adnoddau, gan gefnogi amcanion Compact Digidol Byd-eang y Cenhedloedd Unedig."
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan:
"Mae Cymru yn cael ei chydnabod fwyfwy ledled y byd am ei hymdrechion i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg, ac am ddangos y gall ein hiaith ffynnu fel rhan o fywyd modern bob dydd.
"Mae gweld Cymru yn helpu cenhedloedd eraill i ddod â'u hieithoedd eu hunain i mewn i'r oes ddigidol yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwn ei wneud ar y llwyfan rhyngwladol.
"Wrth i dechnoleg barhau i esblygu, mae'n bwysig nad yw ieithoedd llai yn cael eu gadael ar ôl," meddai.
