Uned achosion brys ar gau oherwydd problem gyda chyflenwad dŵr

Ysbyty Tywysoges Cymru

Mae Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi dweud nad ydyn nhw yn derbyn cleifion i’r uned achosion brys sydd ar y safle ddydd Mawrth ar ôl problem gyda chyflenwad dŵr yno

Dywedodd y bwrdd iechyd bod y cyflenwad dŵr “wedi ei atal dros dro”, ond eu bod nhw’n ceisio datrys y broblem.

Maen nhw’n cynghori pobl i fynd i ysbyty arall os ydyn nhw angen sylw meddygol brys.

Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, fe ddywedon nhw: "Rydym yn profi aflonyddwch sylweddol dros dro i'r cyflenwad dŵr yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

"Oherwydd prinder dŵr, ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gallu derbyn cleifion i'r Adran Argyfwng heno tra ein bod ni’n gweithio i ddatrys y broblem.

"Peidiwch â dod i’r Adran Argyfwng yn Ysbyty Tywysoges Cymru oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol. 

"Os oes angen gofal brys neu argyfwng arnoch, ewch i ysbyty arall lle bynnag y bo modd."

Ni fydd yr ysbyty yn derbyn ymwelwyr nos Fawrth chwaith.

Ychwanegodd y bwrdd iechyd: "Rydym yn gweithio'n agos gyda Dŵr Cymru i adfer gwasanaethau cyn gynted â phosibl.

"Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael.

"Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth."

Cyhoeddodd Dŵr Cymru nos Fawrth nad yw'r problemau gyda'r cyflenwad yn gysylltiedig a'u darpariaeth nhw, ond bod eu peirianwyr yn dal i fod ar y safle yn cynorthwyo'r ysbyty.  

Mae’r adran ddamweiniau ac achosion brys agosaf at Ysbyty Tywysoges Cymru tua hanner awr oddi yno, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.