Undebau amaeth yn lleisio pryder am gynllun £1m yn Nant Ffrancon

Nant Ffrancon Dyffryn Ogwen

Mae undebau a chymdeithasau amaethyddol wedi lleisio pryder am gynllun £1m i adfer byd natur yn Nant Ffrancon.

Daw'r pryderon wedi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gydnabod na fu digon o amser i ymgynghori’n iawn â ffermwyr a thrigolion yn y dyffryn mewn rhaglen Ffermio a fydd yn cael ei darlledu ar S4C nos Lun.

Mae Nant Ffrancon yn ddyffryn sy'n ymestyn o Fethesda hyd at Lyn Ogwen ac yn ardal sy'n enwog am ei harddwch eithriadol ac sydd wedi rhoi bywoliaeth i nifer o ffermwyr a'u teuluoedd ar hyd y canrifoedd.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae'r ardal yn wynebu dirywiad ecolegol difrifol.

Yn sgil hynny, maen nhw wedi cael £1 miliwn er mwyn dechrau prosiect newydd fydd, yn ôl yr Ymddiriedolaeth, yn adfer byd natur gan gydweithio gyda'r gymuned a'r ffermwyr. 

Ond mae rhai ffermwyr a thrigolion lleol yn galw am atal y cynllun am y tro. Maen nhw’n poeni am ddyfodol y traddodiad o fagu defaid cynefin yn y dyffryn. 

Gwrthwynebiad

Mae Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Ffermwyr Tenant Cymru, NFU Cymru, Hybu Cig Cymru a’r Cynghrair Cefn Gwlad bellach wedi arwyddo llythyr yn datgan eu gwrthwynebiad i'r cynllun fel ag y mae.

Mae’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol,  Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig, Dyfodol i Ffermydd Defaid Eryri, Cylch yr Iaith, Cyngor Cymuned Llanllechid, a Cymdeithas yr Arwethwyr Da Byw hefyd wedi ei arwyddo.

Maen nhw’n galw ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ailystyried y ffordd y mae’n ymgynghori â chymunedau lleol ar newidiadau allai "danseilio" ffermio defaid traddodiadol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. 

Mae’r llythyr yn dweud bod y “camau diweddar a gymerwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn fwriadol neu'n anfwriadol, yn tanseilio rheolaeth diadelloedd wedi eu cynefino o ddefaid mynydd Cymreig gan ddefnyddio arferion traddodiadol”. 

“Mae newidiadau o'r fath yn bryder sylweddol i bob un ohonom.” 

Mae’r llythyr yn parhau: “O bryder arbennig i ni yw'r ffordd y mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi mynd ati i weithredu ei hagenda yn yr ardal; yn benodol, trwy ddileu diadellau cyfan o ddefaid sydd wedi'u cynefino i aros ar dir penodol - niferoedd o dros fil o ddefaid - a thrwy lansio'r prosiect 'Natur i Bobl Nant Ffrancon' yn ddiweddar, heb fawr ddim trafodaeth nac ymgynghori â'r cymunedau lleol.”

Image
Trystan Edwards
Trystan Edwards o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

‘Trafodaeth’

Mae Newyddion S4C wedi holi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ymateb i’r llythyr.

Dywedodd Trystan Edwards o’r Ymddiriedolaeth wrth raglen Ffermio nos Lun ei fod yn derbyn beirniadaeth y gymuned nad oedden nhw wedi ymgynghori digon gyda nhw wrth lunio'r cynllun a cyn iddo ddechrau.

“Fyswn i'n derbyn bod hynny'n feirniadaeth teg,” meddai.

“Mewn gwirionedd, cyfnod byr iawn sydd ‘na i ddatblygu cais a felly wrth lunio cysyniad mewn ffordd, ychydig bach iawn amser, dim digon o amser i ymgynghori'n iawn.

“Ond mae 'na ddigon o le o fewn y cynllun i ni fod yn rhoi darlun newydd ar gyfer y dyfodol.”

Roedd yn cydnabod "bod angen i ni sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys fewn yn y trafodaeth”. 

“Be fyswn i'n dweud ydy mai rŵan ydy'r man cychwyn i'r trafodaethau.

“Be mae'r cynllun wedi rhoi i ni adnoddau, bobl, swyddi, er, i fod yn medru cael trafodaethau nid yn unig efo ffermwyr ond efo'r gymuned, cymunedau eang sydd yna yn Nant Ffrancon ac yn Nyffryn Ogwen.”

Dywedodd nad oedden nhw yn mynd “mynd i fedru llwyddo i gadw'r tirlun fan hyn yn edrych fel ag y mae o ac i gael cadwraeth ar ei orau heb amaeth”.

Nid pob ffermwr sydd yn gwrthwynebu'r cynllun. Mae gan Bryn Owen drwydded bori ar gyfer ei fuches o wartheg duon Cymreig ar fferm Blaen y Nant yn Nant Ffrancon, fferm sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

“Pan welais i'r hysbyseb gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bod nhw'n chwilio am borwyr, es i gais i mewn i ddod yma efo'r gwartheg duon Cymreig yma,” meddai wrth Ffermio. 

“A fues i'n ffodus o gael dod yma i bori hefo nhw. Maen nhw wedi bod yma rŵan ers dros flwyddyn bellach.”

Ychwangeodd: ”Mae cael bod yma 'di rhoi cyfle i mi gynnyddu'r fuchas, achos daliad fychan iawn sydd gennnyn ni adre. 

“Dwi’n edrych ymlaen i weld be sydd ganddyn nhw i gynnig.”

Image
Arwel a Meurig Roberts
Arwel a Meurig Roberts

‘Effaith lot mwy eang’

Bydd y cynllun Natur i Bobl yn ymestyn dros 4000 o erwau, yn cynnwys creu Hwb Natur Ogwen ar gyfer cysylltu â'r gymuned, rhoi coleri GPS ar dda byw er mwyn rheoli pori yn fwy manwl, cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru i adfer mawndir ac adfer gorlifdir afon Ogwen. 

Ond mae criw o ffermwyr lleol, gan gynnwys Arwel a'i frawd Meurig Roberts, sy'n ffermio ger Llyn Ogwen, wedi sefydlu grŵp ymgyrchu sydd wedi codi nifer o bryderon am y cynllun. 

Maen nhw'n dadlau fod yr Ymddiriedolaeth yn anwydbyddi traddodiadau ffermio'r ardal, yn arbennig yr arferiad o gadw a magu defaid cynefin. 

“Dan ni'n gweld nifer y defaid yn mynd o'r ffermydd National Trust ‘ma,” meddai Meurig Roberts.

“Wedyn, 'dan ni yn colli, yn cymdogion i fynd i alw ar i fynd i gasglu mynyddoedd ein hunain hefyd. 

“Gan bod y ddafad yn mynd o'r tirwedd, mae defaid eraill yn crwydro mewn. Mae'n cael effaith lot mwy eang mewn ffordd.”

Ond a yw’r Ymddiriedolaeth yn gywir i ddweud bod yna ddirywiad ecolegol difrifol yn Nant Ffrancon? 

“Dych chi'n mynd yn ôl i'r '90au, pan oedd yna gorbori a miloedd o ddefaid,” meddai. “Roedd yna gorbori adeg yno.

“Ond ers rhai blynyddoedd mae schemes 'di dod mewn, dim pori gaea’. Wedyn mae'r llefydd, maen nhw 'di mynd yn wyllt oherwydd does 'na ddim stoc yno. 

“Mae hynny i gyd yn yr 20 mlynedd diwetha'. Oedd y lle yn iawn cynt? Dw i'm yn gwybod. 

“Ond wrth dynnu stoc yno, mae'r molinia grass ma’ yn cael tyfu, mae’n mynd yn wyllt, mae’n mynd yn andros o fire risk.”

Bydd rhaglen Ffermio yn cael ei darlledu ar S4C am 21.00 nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.