Undeb Rygbi Cymru'n cyhoeddi amserlen ar gyfer torri nifer y rhanbarthau o bedwar i dri
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi sut mae'n bwriadu torri nifer y rhanbarthau proffesiynol o bedwar i dri erbyn 2028, gyda'r Gweilch a'r Scarlets yn debygol o gystadlu i fod yr unig ranbarth yn ne-orllewin Cymru.
Roedd yr Undeb eisoes wedi cadarnhau ei fwriad i leihau nifer y rhanbarthau fel rhan o'i strategaeth hirdymor ar gyfer y gêm broffesiynol yng Nghymru.
O dan y cynlluniau, byddai un rhanbarth wedi'i leoli yn y brifddinas, un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin.
Mae disgwyl i Rygbi Caerdydd, sy'n eiddo i Undeb Rygbi Cymru, a'r Dreigiau, sy'n gweithredu fel busnes annibynnol, gael trwyddedau.
Byddai hynny'n golygu y byddai'n rhaid i'r Gweilch, sydd wedi'u lleoli yn Abertawe, a'r Scarlets, sydd wedi'u lleoli yn Llanelli, gystadlu am y drydedd drwydded.
Yn ôl yr Undeb, bydd y broses o ddyfarnu'r trwyddedau yn dechrau ym mis Rhagfyr 2026, gyda phenderfyniad terfynol cyn diwedd tymor 2026/27.
"Mae Bwrdd yr Undeb wedi ystyried ystod eang o ffactorau yn fanwl wrth bennu'r tair ardal drwyddedu ar gyfer y dyfodol, ac wedi cadarnhau mai dim ond y clybiau proffesiynol presennol fydd yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer trwydded," meddai datganiad gan yr Undeb.
"Mae hyn yn golygu, os ydynt yn cytuno ar delerau terfynol y drwydded, y bydd y Dreigiau a Rygbi Caerdydd yn cael cynnig y trwyddedau ar gyfer dwyrain Cymru a'r Brifddinas - yn y drefn honno."
Dywedodd Is-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, John Manders: "Rydym wedi cadarnhau y bydd model gweithredu'r dyfodol yn cynnwys tri thîm proffesiynol o ddechrau tymor 2028/29 ymlaen, ac erbyn hyn mae gennym amserlen glir ar gyfer camau nesaf y broses.
"Rydym eisoes wedi dechrau rhoi'r strwythurau perthnasol yn eu lle ar gyfer cryfhau llwybrau datblygu ein chwaraewyr addawol, creu'r amgylcheddau gorau ar gyfer ein chwaraewyr hŷn, gan ddarparu'r gefnogaeth ariannol briodol a datblygu'r cyfleusterau i’w cefnogi hefyd.
"Rydym yn gwneud cynnydd pwysig fydd yn diogelu dyfodol ein gêm, yn datblygu adnoddau ac yn rhoi'r cyfle gorau i'n timau lwyddo ar bob lefel."
'Bradychu'
Mae Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, wedi galw ar Brif Weithredwr yr Undeb, Abi Tierney, i ymddiswyddo, gan ddweud fod chwaraewyr rygbi a chefnogwyr yng ngorllewin Cymru "wedi cael eu bradychu" gan yr undeb.
Mewn datganiad nos Fercher, dywedodd y Cynghorydd Stewart: "Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadw pawb ar dennyn gan honni y byddai hwn yn broses deg a thryloyw, tra eu bod drwy'r amser yn cynllwynio y tu ôl i'r llenni.
"Mae Undeb Rygbi Cymru bellach wedi cyhoeddi, heb unrhyw ymgynghori na chyhoeddi unrhyw dystiolaeth ategol, y bydd Caerdydd a Chasnewydd yn cael cynnig dwy o'r tair trwydded.
"Mae hynny'n golygu bod chwaraewyr rygbi a chefnogwyr yn y gorllewin a thu hwnt wedi cael eu bradychu a'u camarwain gan Undeb Rygbi Cymru.
"Yn ddaearyddol, mae Casnewydd a Chaerdydd yn y dwyrain a gallent uno i greu tîm newydd ar gyfer y dwyrain, gyda'r Gweilch yn y de a'r Scarlets yn y gorllewin.
"Ond y gwir amdani yw bod Undeb Rygbi Cymru yn benderfynol o amddiffyn Caerdydd ac wedi llunio'r map rhanbarthol afresymegol hwn gyda hynny mewn golwg, yn hytrach na'r hyn sydd orau i rygbi Cymru."
