Undeb Rygbi Cymru’n beirniadu sylwadau ‘sarhaus a phersonol’ am eu cynlluniau

Undeb Rygbi Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi beirniadu’n chwyrn sylwadau “personol a sarhaus" am eu cynlluniau i ddiwygio’r gamp yng Nghymru.

Mae’r Undeb wedi cyhoeddi sut mae'n bwriadu torri nifer y rhanbarthau proffesiynol o bedwar i dri erbyn 2028, gyda'r Gweilch a'r Scarlets yn debygol o gystadlu i fod yr unig ranbarth yn ne-orllewin Cymru.

O dan y cynlluniau, byddai un rhanbarth wedi'i leoli yn y brifddinas, un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin.

Mewn datganiad fore dydd Sadwrn dywedodd URC: “Beth bynnag yw eich barn am yr hyn sydd orau ar gyfer dyfodol rygbi Cymru, nid oes unrhyw gyfiawnhad dros wneud ymosodiadau a datganiadau sarhaus a phersonol iawn wrth gyfeirio at aelodau o'n staff a Bwrdd Undeb Rygbi Cymru.

“Mae pawb sy'n ymwneud â rygbi Cymru eisiau'r un peth yn y pendraw. Camp sy’n gynaliadwy sy'n gweithio i bob pentref, tref a dinas yng Nghymru ac sydd hefyd yn sicrhau llwyddiant rheolaidd ar lefel uwch y gamp, yng ngêm y dynion a’r menywod.

"Cafodd Bwrdd presennol Uned Rygbi Cymru ei greu yn dilyn peidlais oedd bron yn unfrydol gan glybiau’r Undeb. Cafodd y newidiadau hyn eu cynllunio'n benodol i gynyddu amrywiaeth ac i wella arbenigedd masnachol, ariannol, busnes a rygbi proffesiynol ar y Bwrdd gan hefyd gadw llais cryf i’r clybiau - a dyna yn union sydd wedi digwydd."

Ymddiswyddo

Un o'r rhai sy'n feirniadol o URC yw'r cyn-chwaraewr rhyngwladol a’r sylwebydd rygbi Cymru, Jonathan 'Jiffy' Davies, sydd wedi galw ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru i ymddiswyddo.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, mae wedi annog cyn-chwaraewyr eraill i leisio eu barn a helpu i ddisodli'r drefn y mae'n dweud sydd wedi "methu â chyflawni".

"Mae'r bwrdd hwn wedi bod yn ei le ers tair blynedd ac mae wedi methu â chyflawni. Felly, mae'n bryd iddyn nhw edrych arnynt eu hunain a phenderfynu a yw'n bryd iddyn nhw gamu o'r neilltu a gadael,” meddai.

"Gall rhywun arall ddod i mewn i gymryd yr awenau - bwrdd dros dro i sefydlogi'r sefyllfa ac i ddewis bwrdd sy'n addas at y diben."

Heriau

Dywedodd y datganiad gan URC fore dydd Sadwrn fod yr Undeb wedi "gweithio yn agos gyda arweinyddiaeth ein timau proffesiynol yng nghamp y dynion i fynd i'r afael â'r heriau ariannol a pherfformiad sy'n wynebu ein gêm."

Ychwanegodd yr Undeb: "Mae ein cyfranddalwyr - ein clybiau - hefyd yn ymwybodol o'r heriau amlwg sydd o'n blaenau. Fe ddaethant at ei gilydd yn gynharach eleni mewn Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol lle cafwyd cyflwyniadau tryloyw ar ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

"Ers hynny, ac ar ôl y broses ymgynghori eang a gyflawnwyd y llynedd, mae’r Bwrdd wedi ailystyried yn fanwl amryw o ffactorau wrth benderfynu ar fodel gweithredu'r dyfodol ar gyfer y gêm broffesiynol. 

"Mae hyn wedi cynnwys - poblogaeth a hygyrchedd, seilwaith rygbi, cynaliadwyedd ariannol, llwybrau datblygu chwaraewyr, perfformiad, cefnogwyr a thraddodiad ac etifeddiaeth ein clybiau a’n gêm."

'Dadlau diangen'

Ychwanegodd y datganiad: "Ni fydd pawb sy’n ymwneud â’r gamp yma yng Nghymru’n cytuno’n llwyr wrth gwrs pan fo penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud, ond mae'n rhaid i ni fel Bwrdd wneud dewisiadau cywir ac ymarferol.

"Nid yw derbyn sylwadau personol a sarhaus yn dderbyniol o gwbl ac yn anffodus mae ymddygiad o’r math yma’n digwydd yn fwy aml yn ddiweddar.

"Fel cenedl rygbi fach ond arbennig o falch, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd - a bydd dadlau diangen wrth droi mewn cylchoedd yn arwain at wneud ein gêm yn wanach yn y pendraw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.