Andy Burnham: Marwolaeth yr Athro Jason Arday yn 'drasiedi ar gymaint o lefelau'
Mae marwolaeth yr Athro Jason Arday oedd yn arfer darlithio ym Mhrifysgol Caergrawnt tan ei ymddiswyddiad yn “drasiedi” ac mae'n “amser i fyfyrio” wedi ei farwolaeth meddai’r Prif Weinidog Andy Burnham.
Daeth cadarnhad bod yr Athro Arday, oedd wedi ymddiswyddo yn dilyn dadl dros lên-ladrad, wedi marw ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i gyfeiriad yn Battersea, de Llundain, ddydd Gwener.
Dywedodd wrth ffrind na allai “fynd yn ei flaen” oriau cyn iddo farw, yn dilyn craffu dwys ar ei yrfa academaidd gan sylwebwyr a charfannau o'r cyfryngau.
Roedd wedi dod o dan bwysau cynyddol yn ddiweddar am ei waith a'i gymwysterau - gyda'i gefnogwyr yn honni mai ymgyrch yn ei erbyn ar sail ei hil oedd y feirniadaeth yn ei erbyn.
Mewn datganiad yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad wythnos yn ôl, dywedodd yr Athro Ardy fod y blynyddoedd ers ei benodiad "wedi'u nodweddu gan lefel ddi-baid o graffu cyhoeddus ac ymosodiadau personol.
"Er bod beirniadaeth yn rhan anochel o fywyd academaidd, mae'r hyn rwyf wedi'i brofi yn llawer mwy na anghytundeb ysgolheigaidd yn unig.
"Mae'r cyhuddiadau, y dyfalu a'r sylwadau cyhoeddus di-baid wedi cael effaith ddifrifol arnaf fi ac ar y rhai rwy'n eu caru."
'Trasiedi'
Dywedodd Andy Burnham wrth newyddiadurwyr yn ystod ymweliad â Chernyw ddydd Sadwrn: “Mae’n drasiedi ar gynifer o lefelau, ond yn enwedig i bawb a oedd yn adnabod Jason - ei deulu wrth gwrs, a’i ffrindiau. Rydym yn meddwl amdanynt heddiw.
“Nid yw’n amser i frysio i farnu. Amser i fyfyrio ydyw, yn fy marn i - myfyrio ar sut y cyrhaeddwyd at y sefyllfa hon.
“Mae’n sefyllfa wirioneddol drist a galarus, ac rwy’n credu ein bod ni oll yn meddwl heddiw am Jason, ei gyfraniad, a’i deulu a’i ffrindiau.”
Dywedodd Heddlu'r Met fod ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un annisgwyl, ond y gred oedd nad oedd yn un amheus.
Dywedodd Syr Simon Baron-Cohen, athro ym Mhrifysgol Caergrawnt a chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Awtistiaeth, wrth y BBC ei fod wedi siarad â'r Athro Arday fore Gwener.
Dywedodd Syr Simon wrth raglen Today ar Radio 4: "Roedd yn destun craffu di-baid, gan gynnwys gwawd ac ymdrechion i danseilio pob manylyn o'i fywyd; doedd e ddim yn gallu ymdopi â cholli ei yrfa a'i enw da, ac roedd yn teimlo na allai barhau."
Llun: ITV