Undeb Rygbi Cymru 'wedi derbyn bron i £10 miliwn' o gytundeb â'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig

ITV Cymru
Stadiwm Principality

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael bron i £10 miliwn yn sgil cytundeb yn ymwneud â Phencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) fis diwethaf, yn ôl adroddiad gan ITV News.

Daw’r taliad wrth i’r corff llywodraethu fwrw ymlaen â chynlluniau dadleuol i leihau nifer y timau rygbi proffesiynol dynion yng Nghymru o bedwar i dri o dymor 2028/29 ymlaen.

Yn ôl ffynonellau, nid oedd y pedwar clwb yn ymwybodol o’r cytundeb tan ar ôl iddo gael ei gwblhau, pan ddaethon nhw i wybod amdano drwy’r gynghrair yn hytrach nag Undeb Rygbi Cymru.

Pan ofynnwyd yn uniongyrchol i’r undeb a oedd hynny’n gywir, ni wnaeth ateb y cwestiwn, gan gyfeirio at "sensitifrwydd masnachol".

Fe wnaeth yr undeb hefyd wrthod cadarnhau’r taliad na dweud a fyddai unrhyw ran o’r arian yn cael ei drosglwyddo i Rygbi Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a’r Scarlets.

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru dros yr haf y byddai Caerdydd a’r Dreigiau yn cael cynnig y cyfle i fod yn ddau o’r tri chlwb a fyddai’n parhau.

Mae hynny’n golygu bod y Gweilch a’r Scarlets yn cystadlu am y lle olaf sy’n weddill.

Buddsoddiad

Roedd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, wedi dweud wrth ITV News yn flaenorol nad yw’r undeb yn gallu cynhyrchu digon o refeniw i ariannu pedwar tîm cystadleuol ar ôl 2028.

Ar hyn o bryd, mae’r timau’n cystadlu â chlybiau o Iwerddon, yr Alban, yr Eidal a De Affrica ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig.

Image
Abi Tierney
Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney

Mae undebau rygbi cenedlaethol y pum gwlad, ynghyd â’r cwmni buddsoddi ecwiti preifat CVC Capital Partners, yn gyfranddalwyr yn y gynghrair.

Pan fuddsoddodd CVC yn y gynghrair am y tro cyntaf yn 2020, fe gafodd Undeb Rygbi Cymru gyfran o’r arian.

Yn 2021, dywedodd y prif weithredwr ar y pryd, Steve Phillips, fod yr arian “wedi’i gynnwys yn y cyllid rhanbarthol”, gan ddisgrifio’r pedwar clwb yng Nghymru fel y rhai a fyddai’n elwa arno yn y pen draw.

Mewn ymateb i gwestiynau ITV News, dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: “Bydd cyfrifon blynyddol URC yn cael eu cyhoeddi’n fuan iawn, gan roi mynediad llawn a chyflawn i’n clybiau, ein cefnogwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb at sefyllfa ariannol rygbi Cymru fel y’i cofnodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ynghyd â chyfeiriadau at unrhyw ddatblygiadau diweddar.

“Fodd bynnag, oherwydd sensitifrwydd masnachol sy’n ymwneud â phartïon eraill, nid ydym yn gallu darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol ar hyn o bryd.”

Mae dogfen a gyflwynwyd gan gwmni yn Iwerddon yn dangos bod Pro Rugby Championship DAC, sy’n gweithredu’r gystadleuaeth, wedi rhoi 1,378 o gyfranddaliadau newydd i Pentagon UK Bidco, cwmni sydd o dan reolaeth CVC, ym mis Medi.

Fe wnaeth hynny gynyddu cyfran Pentagon yn y cwmni, tra bod Celtic Rugby DAC, sef y cwmni sy’n dal cyfran yr undebau rygbi yn y gynghrair, wedi parhau fel yr ail gyfranddaliwr.

Nid yw’r ddogfen yn egluro’r taliad y mae ITV News yn deall iddo gael ei wneud i Undeb Rygbi Cymru.

Ond mae cofnodion cyfarfod bwrdd a gyhoeddwyd gan Undeb Rygbi’r Alban yn gynharach eleni yn dangos ei fod yn disgwyl derbyn incwm untro o daliad yn gysylltiedig â CVC, ac y byddai’r incwm blynyddol o Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn is yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.