Undeb Rygbi Cymru yn adrodd colled o £18 miliwn
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi adrodd colled o £18.1 miliwn cyn treth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, o'i gymharu â £7.2 miliwn y flwyddyn flaenorol.
Mae'r ffigyrau diweddaraf, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2026, yn dangos bod colledion gweithredol yr undeb hefyd wedi cynyddu o £4.7 miliwn i £14.8 miliwn.
Daw hyn er bod trosiant y grŵp wedi cynyddu £10.1 miliwn i £116.2 miliwn.
Yn ôl yr undeb, mae costau cynyddol a llai o incwm na'r disgwyl o gemau rhyngwladol wedi effeithio ar ei pherfformiad ariannol.
Fe wnaeth Cymru chwarae saith gêm ryngwladol dynion yn Stadiwm Principality yn ystod y flwyddyn, o'i gymharu â phump y flwyddyn flaenorol.
Ond dim ond tua £2 filiwn y gwnaeth incwm o'r gemau hynny gynyddu, oherwydd prisiau tocynnau is ar gyfartaledd a llai o gefnogwyr mewn rhai gemau.
Fe wnaeth y costau uniongyrchol o gynnal digwyddiadau yn y stadiwm gynyddu tua £7 miliwn.
Dywedodd prif swyddog ariannol a gweithredol yr undeb, Gavin Marshall, ei bod wedi bod yn "flwyddyn ariannol heriol".
"Er ein bod wedi cynyddu ein hincwm, mae ein costau wedi cynyddu'n gyflymach, ac mae ein perfformiad ariannol wedi dirywio o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol," meddai.
Fe wnaeth URC ddosbarthu £32.6 miliwn i'r pedwar rhanbarth proffesiynol, rygbi lled-broffesiynol a'r gêm gymunedol, sef yr un swm â'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r cyfrifon hefyd yn cynnwys blwyddyn ariannol lawn gyntaf Clwb Rygbi Caerdydd o fewn y grŵp, ar ôl i'r undeb brynu'r clwb ym mis Ebrill 2025 ar ôl iddo fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Fe wnaeth Rygbi Caerdydd golled fasnachol sylfaenol o tua £1.2 miliwn.
Dywedodd Mr Marshall mai blaenoriaeth yr undeb bellach yw gwella ei sefyllfa ariannol drwy gynyddu incwm, rheoli costau a manteisio'n well ar gyfleoedd masnachol Stadiwm Principality.
Mae strategaeth docynnau newydd wedi'i chyflwyno, ac mae'r undeb hefyd yn gobeithio cynyddu'r elw o ddigwyddiadau mawr yn y stadiwm.
Bydd y digwyddiadau sydd ar y gweill yn cynnwys gemau bêl-droed Euro 2028 a rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA yn 2029.

