Un o'r cerbydau brys cyntaf i gyrraedd trychineb Aberfan yn dychwelyd i'r pentref
Fe gafodd plant mewn ysgol gynradd yn Aberfan brofiad arbennig ddydd Gwener, wrth i hen injan dân oedd yn un o'r cerbydau brys cyntaf i gyrraedd trychineb Aberfan yn 1966 ymweld â'r ysgol.
Ddydd Mercher nesaf fe fydd hi'n 60 o flynyddoedd ers y drychineb, pan lithrodd tomen lo ar ysgol yn y pentref gan ladd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant.
Roedd yr ymweliad yn rhan o ddigwyddiad ‘Aberfan 60’, rhaglen o goffáu, myfyrio a dysgu sy’n nodi'r chwe degawd ers y digwyddiad.
Dywedodd y diffoddwr tân Sam Gill o Orsaf Dân Merthyr Tudful: “Mae gweld yr injan dân hon yn ôl yn Aberfan wedi bod yn brofiad hynod deimladwy.
"Mae’n rhan bwysig o’n hanes, ac roedd y diwrnod heddiw yn ymwneud â helpu pobl ifanc i ddeall y dewrder, y tosturi a’r ysbryd cymunedol a ddangoswyd yn wyneb trasiedi annirnadwy.
"Byddwn bob amser yn cofio’r rhai a gollwyd, ac rydym yma bob amser i ddiogelu a chefnogi ein cymunedau heddiw.”
Mae’r hen injan, a oedd ar un adeg wedi ei lleoli ym Merthyr Tudful, wedi cael ei hadfer, a’i chynnal a’i chadw yn Amgueddfa Dân Norfolk.
Dywedodd y Cynghorydd David Issac, Maer Merthyr Tudful: “Roedd yn fraint gweld yr injan dân hanesyddol hon yn ymweld ag Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen, ac yn cwrdd â’r disgyblion a ddysgodd am ei chysylltiad pwysig ag Aberfan.
"Fel un o’r cerbydau gwasanaethau brys cyntaf i gyrraedd ar y diwrnod trasig hwnnw ym 1966, mae’n sefyll fel atgof pwerus o’r dewrder, y tosturi a’r ysbryd cymunedol a ddangoswyd yn wyneb colled sydd yn amhosib ei dychmygu.
"Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i rannu’r straeon hyn â chenedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau na chaiff etifeddiaeth Aberfan ei hanghofio byth.”
Bydd yr injan dân hefyd yn cael ei harddangos i'r cyhoedd yn Sgwâr Penderyn, Merthyr Tudful, rhwng 10:00 a 14:00 ar ddydd Sul 18 Hydref.
