‘Un o gymeriadau mawr deffroad y 60au’: Teyrngedau i Robat Gruffudd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Robat Gruffudd, yr ymgyrchydd ac awdur sydd wedi marw yn 83 oed.
Cyhoeddodd gwasg y Lolfa, a gafodd ei sefydlu ganddo yn 1967, ei fod wedi marw ddydd Iau gan ei ddisgrifio fel “ymgyrchydd brwd dros y Gymraeg”.
“Heb ei weledigaeth a'i ysbryd chwyldroadol ac arloesol yn niwedd y 60au fydden ni ddim yma heddiw,” meddai’r wasg.
“Bu'n ymlafnio yn y wasg am bron i 60 mlynedd gyda'i weledigaeth a'i ddyfalbarhad yn ysbrydoliaeth i ni gyd.”
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, cyn-brif weithredwr y Cyngor Llyfrau, ei fod wedi gwneud “cyfraniad amhrisiadwy i fyd cyhoeddi dros y degawdau ac mae’r wasg yn parhau i ffynnu heddiw dan ofal arbennig Garmon a Lefi”.
“Un Robat oedd! Arloeswr o fri ac athrylith prin," meddai.
“Un oedd o ddifri ond heb gymryd ei hun o ddifri, a byddaf yn trysori’r atgofion am seiadau lu yn ei gwmni dros y blynyddoedd.”
Dywedodd ei gyd-ymgyrchydd Ffred Ffransis mai Robat Gruffudd oedd un o’r rheini oedd wedi rhoi “cymorth ymarferol” iddo rhwng ei gyfnodau yn y carchar am ymgyrchu dros hawliau i siaradwyr Cymraeg.
“Byddwn i'n cysgu ar lawr y swyddfa uwchben Siop y Pethe a Gwilym [Tudur] ac yna Robat yn y Lolfa a roddodd waith i mi am ddau fis yr un rhwng carchariadau,” meddai.
“Nid ‘Pob Lwc’ yn unig ond cymorth ymarferol.”
Dywedodd ei fod wedi dysgu “gwers mawr gan Robat fod y chwyldro yn un llawen, llawn hwyl ac yn dragwyddol ifanc.”
“Wrth glywed yn fy meddwl rwan ei chwerthin unigryw, dwi'n sylweddoli fod natur ifanc a llawen y frwydr yn parhau,” meddai.
‘Cyfraniad gwirioneddol’
Mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd Alun Ffred Jones, cyn-weinidog treftadaeth Llywodraeth Cymru, fod Robat Gruffudd yn “un o gymeriadau mawr deffroad y 60au a'r 70au."
"Roedd o'n ddyn oedd ddim yn credu mewn trefn heb law am yn ei wasg ei hun. Ges i lawer o hwyl yn ei gwmni o, fel llawer o bobl eraill hefyd.
"Dyn wnaeth gyfraniad wirioneddol werthfawr i fywyd Cymru."
Dywedodd y canwr a’r ymgyrchydd Dafydd Iwan wrth Golwg360 ei fod yn “golled anferthol”.
“Roedd Robat yn unigryw, ac yn arloeswr arbennig iawn,” meddai.
“Roedd sefydlu’r Lolfa’n tyfu o’r un cyfnod a’r un meddylfryd â phan sefydlais i Recordiau Sain.
“Yn y chwedegau, roedd teimlad ymhlith y to iau yng Nghymru bod rhaid i ni wneud pethau’n hunain.
“Roedd Robat Gruffudd yn un o’r cyntaf i wneud hynny ym maes cyhoeddi. Mi oedd o’n dipyn o rebel erioed.
“Mi oedd o’n gymeriad arbennig, yn ddoniol ac yn ffraeth, ond yn ddewr wrth sefyll yn gryf dros yr hyn roedd e’n ei gredu hefyd.”
Dywedodd Rocet Arwel Jones o Gyngor Llyfrau Cymru fod ei farwolaeth yn “golled anferth”.
“Mae rhai unigolion y mae'u bywyd nhw yn drobwynt, y mae'n anodd dychmygu'r llwybr y byddai diwylliant, cymdeithas neu genedl wedi ei ddilyn oni bai eu bod nhw wedi eu harwain nhw i gyfeiriad gwahanol,” meddai.
“A fyddai rhywun arall wedi camu i'r bwlch a lanwyd gan Robat? Go brin, achos go brin bod neb arall hyd yn oed yn gweld bod bwlch ar y pryd. Mae'r golled yn anferth am fod y cyfraniad yn anferth.”
‘Gweledigaeth’
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd wedi rhoi teyrnged i Robat Gruffudd, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen ddwywaith yn y brifwyl, gan ddweud ei fod yn un o “gewri’r byd cyhoeddi”.
“Yn arloeswr yn ei faes am ddegawdau ac ymgyrchydd brwd dros ein hiaith a'n diwylliant, mae Cymru'n dipyn tlotach heddiw.
“Rydyn ni'n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei ffrindiau a'i deulu oll ac yn diolch iddo am ei angerdd a'i waith dros y blynyddoedd.”
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw “o un i un, yn gweld colli’r arloeswyr a sefydlodd Gymdeithas yr Iaith yn y 1960au”.
“Dyma’r genhedlaeth a heriodd syniad yr oes fod y Gymraeg yn marw, ac a ymatebodd i alwad Saunders Lewis fod angen chwyldro i sicrhau dyfodol i’r Gymraeg.
“Bu Robat Gruffudd trwy ei oes yn personoli’r chwyldro - gan sefydlu gwasg chwyldroadol i ledu’r gair yn null cewri trwy’r oesoedd a’r cylchgrawn herfeiddiol ‘Lol’.
“Mae’r fenter wedi tanio a phorthi’r chwyldro Cymraeg trwy’r degawdau hyd heddiw.
“I bobl Cymru, mae gweledigaeth Robat yn parhau, ond cydymdeimlwn yn fawr â’i deulu a’i ffrindiau agos yn eu colled personol enbyd.”