Peilonau: Uchel Lys yn clywed bod perygl i gwmni ynni gwyrdd ledaenu TB
Roedd perygl i gwmni ynni gwyrdd sy’n bwriadu codi peilonau ar draws cefn gwlad Cymru ledaenu clefyd ymhlith gwartheg drwy fynd i dir o "dan gyfyngiadau TB", clywodd yr Uchel Lys.
Mae Natalie Barstow, yr Ymgyrch dros Ddiogelu Cefn Gwlad Cymru a’r Land Justice Coalition yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Green GEN Cymru oherwydd y modd mae’r cwmni’n bwrw ymlaen â’i gynlluniau.
Dywedodd yr ymgyrchwyr fod y cwmni wedi gweithredu’n anghyfreithlon drwy beidio â rhoi rhybudd priodol i ffermwyr a thirfeddiannwyr wrth ymweld â'u tir.
Maen nhw hefyd yn dweud nad yw’r cwmni wedi cymryd camau digonol i atal clefydau rhag lledaenu, gan beri risg i fywyd gwyllt a bywoliaethau pobl.
Mae Green GEN Cymru yn amddiffyn yr hawliad cyfreithiol, sy’n ymwneud â rhoi ceblau trydan newydd ar draws Cymru ar ffurf peilonau ac o dan y ddaear.
Wrth siarad mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, dywedodd Sasha Blackmore KC, ar ran yr ymgyrchwyr, fod Green GEN Cymru yn "hyrwyddo prosiect maint HS2" ar draws mwy na 200km (120 milltir) o dir Cymru.
Dywedodd y bargyfreithiwr wrth y llys fod y cwmni wedi rhoi rhybudd i gael mynediad i dir ar gyfer arolygon ym mis Awst 2024, ac yna ymddangos "heb ddweud wrth bobl" dros 15 mis yn ddiweddarach i gasglu data.
Fe aeth ymlaen i ddweud fod y cwmni mewn perygl o ledaenu clefydau anifeiliaid ar draws yr ardal.
"Mae’r diffynnydd yn mynd i mewn mewn dillad/esgidiau sy’n amlwg yn fudr ac nad ydynt yn hawdd eu diheintio; heb bolisïau digonol ar fio-ddiogelwch nac ar iechyd a diogelwch, a hyd yn oed gydag yswiriant annigonol sydd wedi dyddio," meddai.
"Mae’r diffynnydd ar gamera neu wedi ei recordio yn gwneud hyn ar dir o dan gyfyngiadau TB buchol gweithredol, mewn setiau moch daear, ar dir safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac mewn dyfrffyrdd sy’n cynnal rhywogaethau gwarchodedig sydd mewn perygl byd-eang ac sy’n agored i ddiheintio annigonol, heb dystiolaeth o ecolegwyr cymwys."
'Poeni gadael eu ffermydd'
Dywedodd y bargyfreithiwr fod ffermwyr yn "pryderu am adael eu ffermydd" rhag ofn i weithwyr y cwmni gyrraedd pan oedden nhw'n breseennol.
Mae’r ymgyrchwyr yn ceisio datgan fod Green GEN Cymru wedi gweithredu’n anghyfreithlon, tra bod Ms Barstow - sy’n credu y gallai achos o TB ar fferm ei theulu fod wedi’i achosi gan arolygwyr - yn ceisio hawlio iawndal.
Dywedodd Philip Coppel KC, ar ran y cwmni, nad oes "unrhyw dystiolaeth o unrhyw gysylltiad rhwng arolygon y diffynnydd ac unrhyw fater bio-ddiogelwch".
Mae'n dweud ei bod yn ymddangos fod yr ymgyrchwyr yn ceisio defnyddio’r hawliad i atal y cynllun rhag cael ei wireddu.
Eu prif amcan, meddai, yw "oedi’r prosiectau yn y gobaith y byddant yn diflannu’n gyfan gwbl".
Disgrifiodd yr achos fel "llanast", gan ddweud bod cwynion am esgidiau budr a diffyg rhybudd yn cael eu dewis yn arbennig mewn "ffordd emosiynol ac anghyflawn".
Ychwanegodd fod "gwrthwynebiad sylweddol" i’r gwaith sy’n cael ei wneud, ac nad oes modd gorbwysleisio ei bwysigrwydd wrth helpu i gyflawni nodau datgarboneiddio’r Llywodraeth.
"Un ffordd y mae hyn wedi’i amlygu yw drwy geisio gwrthsefyll mynediad ar gyfer cynnal arolygon," meddai.
"Mae hyn wedi golygu gwneud ceisiadau am warantau pan fu’n amlwg nad oes modd cael mynediad heb ddefnyddio grym."
Dywedodd y bargyfreithiwr: "Mae’r hawlwyr yn disgrifio’r prosiectau hyn fel rhai o’r un maint â HS2, ond mae hynny’n gymhariaeth ddiystyr gan fod HS2 yn llinell reilffordd; llinellau trydan sydd yma, ar beilonau, polion neu, mewn rhannau byr, o dan y ddaear.
Mae disgwyl i’r gwrandawiad ddod i ben ddydd Mercher.
