CPD Dinas Caerdydd yn derbyn dirwy wedi canu caneuon homoffobaidd
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi derbyn dirwy o £15,000 gan Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi i ganran fach o’r dorf yng ngêm gogynderfynol Cwpan Carabao yn erbyn Chelsea ar 16 Rhagfyr ganu caneuon homoffobaidd.
Mae’r clwb hefyd wedi derbyn Cynllun Gweithredu gan y gymdeithas bêl-droed o ganlyniad i’r gân “homoffobaidd a gwahaniaethol” a gafodd ei chanu yn ystod ail funud y gêm. Fe fydd y cynllun mewn lle tan ddiwedd tymor 2026/27.
Ym mis Chwefror, dywedodd CBDLl fod Caerdydd, yn honedig, wedi methu â sicrhau nad oedd eu cefnogwyr yn canu caneuon o'r math.
Cafodd y gân ei diffinio fel “sarhad homoffobaidd”.
Fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ei gwneud hi’n drosedd i ganu neu ddefnyddio geiriau homoffobaidd ym mis Ionawr 2022. Oherwydd hyn, penderfynodd CBDLl fod y gân benodol hon yn torri rheolau’r Gymdeithas a dyna pam bod mesurau disgyblu wedi eu cymryd.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y clwb eu bod nhw’n cydnabod y gosb gan ddweud, “Mae gan Clwb Pêl-Droed Dinas Caerdydd bolisi dim goddefgarwch, tuag at bob math o wahaniaethu."
Ychwanegodd y clwb y bydd yn parhau i weithio gyda’r heddlu a chyrff awdurdodol i waredu ymddygiad o'r fath o’r gêm ac o gymdeithas.
