Trydydd arestiad ar ôl ‘digwyddiad difrifol’ yn Abertawe
Mae trydydd person wedi'i arestio ar ôl i'r heddlu ddatgan "digwyddiad difrifol" yn ardal Treforys yn Abertawe nos Wener.
Cafodd dyn 29 oed o Abertawe ei arestio fore Sadwrn ar amheuaeth o affräe (affray) a meddu ar arf ymosodol, ac mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.
Daw ei arestiad ar ôl i ddau berson arall gael eu harestio ar ôl y digwyddiad ddydd Gwener.
Cafodd dyn 41 oed o Lansamlet ei arestio ar amheuaeth o feddu ar ddryll gyda'r bwriad o beryglu bywyd, ac fe gafodd bachgen 16 oed, sydd hefyd o Lansamlet, ei arestio ar amheuaeth o affräe.
Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa wrth i'r ymchwiliad troseddol fynd yn ei flaen.
Dywedodd yr heddlu ddydd Gwener fod gan un person fân anafiadau. Ond mae'n ymddangos nad oedd anafiadau’r unigolyn a aeth i’r ysbyty yn gysylltiedig â’r digwyddiad.
Mae ditectifs o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiad ac yn apelio ar unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd, neu sydd â lluniau camera dangosfwrdd, teledu cylch cyfyng neu ffôn symudol, i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Stephen Jones: “Mae ein hymchwiliad, sy’n cynnwys timau o dditectifs a staff arbenigol, yn parhau ac mae ymholiadau sylweddol wedi eu cynnal ers y digwyddiad nos Wener.
“Er bod yr ymchwiliad yn parhau, credwn fod yr unigolion dan sylw yn debygol o fod yn adnabod ei gilydd.
"Mae digwyddiadau o’r fath yn brin, ond rydym yn deall eu bod yn achosi cryn bryder o fewn cymunedau lleol.
"Nid ydym yn ymwybodol ar hyn o bryd o unrhyw fygythiad ehangach i’r cyhoedd.
“Bydd presenoldeb amlwg gan yr heddlu yn parhau yn yr ardal wrth i swyddogion barhau â’u hymholiadau a rhoi sicrwydd i drigolion lleol.
“Hoffwn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.”