Trydedd bont dros y Fenai: Y llywodraeth i ‘fwrw ymlaen’ â’r cynlluniau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn "bwrw ymlaen" â chynlluniau ar gyfer trydydd croesiad dros y Fenai, rhwng Gwynedd a Môn.
Mae’r cyhoeddiad yn dod ar ôl i adolygiad yn 2023 o dan y llywodraeth Lafur flaenorol argymell cefnu ar y cynlluniau a chanolbwyntio ar wella llif y traffig ar Bont y Borth a Phont Britannia yn lle.
Wrth annerch y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper, fod pobl eisiau “gweithredu, nid trafod diddiwedd”.
Mae Newyddion S4C yn deall y gallai’r bont gostio tua £670m ar ôl chwyddiant, ac mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y gallai fod yn barod mewn tua wyth i 10 mlynedd.
Mae gan y llywodraeth feddwl agored am sut i dalu am y bont, a dydy hi ddim wedi diystyru unrhyw opsiynau gan gynnwys gofyn am gyfraniad gan Lywodraeth y DU na chwaith godi tollau ar y bont.
“Mae pobl ar Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru wedi aros yn hir am fwy o sicrwydd am ddyfodol y croesiadau,” meddai Mark Hooper.
“Heddiw ry’n ni’n amlinellu ffordd glir ymlaen, gyda chamau i wneud y croesiadau presennol yn fwy dibynadwy, gan ddechrau ar unwaith ar y gwaith o ddatblygu trydydd croesiad.
“Gyda’i gilydd, dylai’r mesurau hyn wneud gwahaniaeth amlwg i fywydau pob dydd pobl, gan gynnig gwell dewisiadau teithio, cysylltiadau mwy dibynadwy a theithiau cyflymach a mwy dibynadwy.”
‘Mesurau ymarferol’
Mae’r cynlluniau’n dod ar ôl i waith atgyweirio mawr ar Bont y Borth dros y tair blynedd diwethaf achosi oedi i draffig.
Mae tagfeydd hefyd ar brydiau, ac mae’n rhaid cau Pont Britannia mewn gwyntoedd cryfion.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn gweithredu mewn tri maes:
- Ailddechrau’r gwaith datblygu ar gyfer trydydd croesiad dros y Fenai ar unwaith. Bydd hynny’n cynnwys gwaith dylunio, asesiad amgylcheddol, datblygu achos busnes a chael y caniatâd sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
- Parhau i fuddsoddi yn y gwaith o reoli, cynnal a chadw a gweithredu’r pontydd presennol, i’w cadw’n ddiogel ac yn ddibynadwy.
- Buddsoddi mewn “mesurau ymarferol” i wneud Pont Britannia yn fwy dibynadwy. Bydd hynny’n cynnwys gosod paneli i wyro’r gwynt, terfynau cyflymder sy’n gallu newid, a gwelliannau eraill i’r ffordd mae’r bont yn cael ei gweithredu er mwyn lleihau tarfu a chadw traffig i symud.
Roedd yr adolygiad hefyd yn ystyried defnyddio tair lôn ar Bont Britannia, gyda chyfeiriad y traffig yn y lôn ganol yn newid yn ôl yr angen.
Ond roedd y dystiolaeth yn dangos pryderon sylweddol am ddiogelwch a sut y byddai’r drefn yn gweithio, felly fydd yr opsiwn hwn ddim yn cael ei ddatblygu ymhellach, meddai’r llywodraeth.
