Lledu twneli Bryn Glas yn un o’r opsiynau dan ystyriaeth ar gyfer yr M4

Traffic ar yr M4

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw meddwl agored am ffyrdd o wella trafnidiaeth o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd, gan gynnwys lledu twneli Bryn Glas.

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper gyhoeddi yn y Senedd ddydd Mawrth y byddai astudiaeth dros 18 mis yn ystyried yr holl opsiynau posib ar gyfer lleihau tagfeydd ar y draffordd.

Dywedodd eu bod nhw wedi dod i’r casgliad bod “angen gwella isadeiledd y ffyrdd”.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi codi pryderon mawr am yr opsiynau gan rybuddio na ddylid "mynd yn ôl o ran trafnidiaeth."  

Mae'r opsiynau yn cynnwys lledu twneli Bryn Glas, gan gostio £1.7bn a chymryd 12 mlynedd, a chau rhai o gyffyrdd yr M4, gan gostio £14m a chymryd dwy flynedd.

Un o'r opsiynau eraill yw uwchraddio’r A48 a’r A4810, sef y 'Llwybr Glas' gynt, gan gostio £1.8 biliwn a gan gymryd 8 mlynedd.

Dywedodd y llywodraeth fod “amrywiaeth o opsiynau cymhleth i’w hystyried” ac ar ddiwedd yr 18 mis “bydd yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio yn cael ei ddewis”.

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mark Hooper: “Byddwn yn cynnal astudiaeth dros 18 mis i ystyried amryw o ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau’r M4 o amgylch Casnewydd drwy adeiladu neu addasu ffyrdd.

“Ochr yn ochr â’r gwaith hwnnw, ry’n ni’n cymryd camau i leihau traffig ar yr adegau prysuraf hyd at tua un o bob deg cerbyd.

“Mae pob cerbyd sy’n cael ei dynnu oddi ar y ffordd yn helpu ar draffordd sydd eisoes yn cludo cymaint o draffig ag y gall ymdopi ag ef, neu fwy na hynny, ar yr adegau prysuraf.”

Yn y cyfamser, bydd rhaglen o welliannau ymarferol hefyd yn cael eu rhoi ar waith dros y pum mlynedd nesaf er mwyn sicrhau manteision yn gynt, meddai Llywodraeth Cymru.

Bydd y rhain yn cynnwys:

  • Buddsoddi mewn adnewyddu a chynnal a chadw’r rhwydwaith presennol o briffyrdd a thraffyrdd a’r seilwaith cysylltiedig.
  • Cynllun gweithredu i wella’r ffordd mae’r draffordd yn cael ei gweithredu a’i rheoli, a gwelliannau penodol i ffyrdd a chyffyrdd o amgylch Casnewydd. Bydd mesurau hefyd i sicrhau bod modd cludo nwyddau’n fwy dibynadwy drwy wneud gwell defnydd o lwybrau eraill fel yr A465.
  • Parhau i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys cymorth gan Trafnidiaeth Cymru i gyflymu’r gwaith o ddatblygu gorsafoedd Cardiff Parkway a Magwyr a’r Gwndy, gwella mynediad i orsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren, a gwella cysylltiadau bysiau rhwng Casnewydd a Chaerdydd.

Bwriad y llywodraeth Lafur flaenorol cyn 2019 oedd adeiladu traffordd newydd 14 milltir ar Wastadeddau Gwent, i’r de o Gasnewydd, ac roedd dros £100m eisoes wedi’i wario ar y prosiect.

Ond fe wnaeth y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, ddileu’r cynllun ym mis Mehefin 2019.

Roedd Mr Drakeford o’r farn y byddai’r ffordd yn achosi difrod na fyddai modd ei ddadwneud i fywyd gwyllt a chynefinoedd gwarchodedig gwarchodfa natur Gwastadeddau Gwent.

'Hynod bryderus'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad ddydd Mawrth gan Lywodraeth Plaid Cymru, dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek  Walker bod yn rhaid i gynlluniau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru basio prawf cenedlaethau’r dyfodol. 
 
"Dylai pawb yng Nghymru allu cyrraedd lle mae angen iddyn nhw fynd – a gallwn gefnogi ein heconomi ar yr un pryd â chael aer glân, byd natur sy’n ffynnu, cyfleoedd cyfartal a dyfodol iach i’n plant a’n hwyrion," meddai. 
 
"Allwn ni ddim fforddio mynd am yn ôl o ran trafnidiaeth, yn enwedig pan fo adolygiad blaenorol o dagfeydd yr M4 yng Nghasnewydd eisoes wedi tynnu sylw at atebion mwy cynaliadwy. 
 
"Cafodd pobol addewid o drafnidiaeth gyhoeddus well pan wrthodwyd Ffordd Liniaru’r M4 yn bendant. Er ei bod yn gadarnhaol gweld ymrwymiadau i wella gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd, mae angen cyflawni’r addewidion hynny’n gyflym nawr. 
 
"Rwyf hefyd yn hynod bryderus nad yw diogelu ac adfer ein hamgylchedd yn cael yr amlygrwydd sydd ei angen ar frys, ac rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd i bobol na fydd unrhyw waith adeiladu ffyrdd sy’n peryglu safleoedd natur gwerthfawr yn cael ei ystyried," ychwanegodd.  
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.