Trydedd bont dros y Fenai: Datblygu pont newydd 'i'r dwyrain o Bont Britannia'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai pont newydd "i'r dwyrain o Bont Britannia" fydd yn cael ei datblygu fel trydydd croesiad dros y Fenai.
Cyhoeddodd y llywodraeth yr wythnos diwethaf y bydd yn "bwrw ymlaen" â chynlluniau ar gyfer trydydd croesiad dros y Fenai, rhwng Gwynedd a Môn.
Daw'r cyhoeddiad ar ôl i adolygiad yn 2023 o dan y llywodraeth Lafur flaenorol argymell cefnu ar y cynlluniau a chanolbwyntio ar wella llif y traffig ar Bont y Borth a Phont Britannia yn lle.
Roedd pedwar opsiwn posib yn rhan o'r cynlluniau o dan y Llywodraeth Lafur, sef Opsiynau Coch, Pinc, Oren a Phorffor.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru ym mis Hydref 2018 Carwyn Jones mai'r Opsiwn Porffor oedd yn cael ei ffafrio, sef pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8 a 8A yr A55.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau wrth Newyddion S4C yr wythnos hon mai dyma yw'r sefyllfa o hyd.
"Opsiwn Porffor fydd y llwybr yr ydym yn ei ddatblygu," meddai'r llywodaeth.
"Cadarnhawyd hwn fel y llwybr a ffefrir ym mis Hydref 2018 yn dilyn gwaith asesu blaenorol."
Ychwanegodd y llywodraeth mai'r cam nesaf yw bwrw ymlaen â'r gwaith dylunio a datblygu angenrheidiol, "ynghyd â’r prosesau amgylcheddol a statudol" sydd eu hangen i gyflawni’r cynllun.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn 2018 fod yr opsiwn Porffor yn "cynnig y manteision economaidd gorau, yn rhoi gwerth am arian 'uchel' ac yn perfformio orau o ran cyd-fynd â'r briffordd".
Mewn ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal ar y pryd, dyma oedd yr opsiwn mwyaf poblogaidd gyda 25% o'r ymatebwyr yn ei roi fel y dewis cyntaf.
'Bodoli fel llwybr'
Wrth siarad â Phwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd yr wythnos diwethaf, dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Mark Hooper: "Does dim modd i chi fuddsoddi mewn rhywbeth sydd ddim yn bodoli fel cynllun. Mae'n rhaid i ni wneud y gwaith cynllunio yna. Mae rhywfaint ohono wedi cael ei wneud yn y gorffennol.
"Felly, mae'r llwybr sydd yno, ac sydd yn debygol o fod y llwybr a ffefrir, yn llwybr gwarchodedig."
Ychwanegodd Mr Hooper: "Yn wahanol i'r sefyllfa ar yr M4, lle nad yw'r llwybr du y mae rhai Aelodau yma wedi galw amdano o'r blaen, yn bodoli bellach fel llwybr y gellir ei gyflawni, mae'r llwybr dros y Fenai yn bodoli fel llwybr. Felly, mae hynny'n helpu yn hynny o beth."
Sut y gallai'r bont newydd edrych?
Yn y cynlluniau o'r ymgynghoriad a gafodd ei gynnal yn 2018, fe rannodd Llywodraeth Cymru ddyluniadau o'r opsiynau posib, gan gynnwys ar gyfer ffordd gerbydau dwy lôn a ffordd gerbydau pedair lôn o leoliadau gwahanol.
Roedd y dyluniadau hyn yn cynnwys mathau o bontydd gwahanol hefyd, gan gynnwys Pont Ecstrados Un Lled, Pont Ecstrados Dau Led, Pont Geblau a Phont Gantilifrog Gytbwys.
- Pont Ecstrados Un Lled
2. Pont Geblau
3. Pont Gantilifrog Gytbwys
4. Pont Ecstrados Dau Led
Mae Newyddion S4C yn deall y gallai’r bont gostio tua £670m ar ôl chwyddiant. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y gallai fod yn barod mewn tua wyth i 10 mlynedd.
Mae gan y llywodraeth feddwl agored am sut i dalu am y bont, a dydy hi ddim wedi diystyru unrhyw opsiynau gan gynnwys gofyn am gyfraniad gan Lywodraeth y DU na chwaith godi tollau ar y bont.
Daw'r cynlluniau ar ôl i waith atgyweirio mawr ar Bont y Borth dros y tair blynedd diwethaf achosi oedi i draffig.
Mae tagfeydd hefyd ar brydiau, ac mae’n rhaid cau Pont Britannia mewn gwyntoedd cryfion.