‘Trwsio Cymru’: Beth sydd ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer etholiadau'r Senedd?

Darren Millar

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn lansio eu maniffesto ar gyfer etholiadau’r Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Wrth addo y byddai ei blaid yn “trwsio Cymru” dywedodd yr arweinydd y blaid yng Nghymru, Darren Millar, fod ganddo gynllun i “sicrhau bod Cymru yn gweithio”.

“Mae’n gynllun cadarnhaol i ryddhau twf economaidd, creu swyddi, hyrwyddo perchnogaeth tai, torri trethi a gwastraff, rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio’n galed ledled y wlad, a thrwsio ein gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.

“Mae pobl yng Nghymru yn galw am newid cadarnhaol - dyma ein cynllun credadwy, wedi’i gostio, i’w gyflawni.

“Dyma ein neges i bobl Cymru: waeth lle rydych chi’n byw, neu beth bynnag yw eich amgylchiadau, byddwch chi ar eich ennill o dan Lywodraeth Geidwadol Gymreig.”

Ymhlith yr ymrwymiadau yn y maniffesto a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth mae:

·             Toriad o 1c yn y gyfradd sylfaenol o dreth incwm i arbed £450 y flwyddyn i’r teulu gweithio cyffredin

·             Capiau ar gynnydd yn y dreth gyngor, ac addewid am refferenda ar unrhyw godiadau dros 5%

·             Dileu Treth Stamp Cymru ar brif gartrefi, ac adfer yr hawl i brynu tai cymdeithasol i hybu perchnogaeth tai

·             Ailsefydlu Asiantaeth Datblygu Cymru i ddenu buddsoddiad i mewn, hyrwyddo twf busnes a chreu swyddi

·             Cefnogi ynni niwclear i gryfhau diogelwch ynni’r DU, ac atal am y tro ffermydd gwynt a solar ar raddfa fawr wrth iddyn nhw gael eu hail-ystyried

·             Adeiladu ffordd liniaru’r M4, uwchraddio’r A55, a dyblu’r A40 hyd at Abergwaun yng Ngorllewin Cymru

·             Treialu cyfradd Treth ar Werth (VAT) o 5% ar fusnesau llety twristiaeth

·             Cyflwyno gostyngiad o £1,000 ar ffioedd dysgu i fyfyrwyr sy’n astudio pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg)

·             Ad-dalu ffioedd dysgu prifysgol i fyfyrwyr nyrsio, meddygaeth, addysgu a deintyddiaeth sy’n astudio yng Nghymru sydd wedyn yn gweithio am o leiaf bum mlynedd yn y GIG yng Nghymru neu ysgolion Cymru

·             Targed “uchelgeisiol” i ddarparu 125,000 o brentisiaethau dros dymor nesaf y Senedd “i gwrdd â’r galw am y sgiliau sydd eu hangen i yrru twf economaidd”

·             £100m ychwanegol ar gyfer amaeth

·             Dim mwy o bwerau i’r Senedd, a dim mwy o wariant ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli

·             Gwrthdroi’r cynnydd yn nifer Aelodau’r Senedd i 96 o 60

‘Rhagor o’r un peth’

Wrth sôn am ei wrthwynebwyr gwleidyddol, dywedodd Mr Millar bod “Llafur wedi siomi Cymru. 

“Ond fydden nhw ddim wedi gallu gwneud hynny heb gefnogaeth Plaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol. 

“Mae pleidlais dros unrhyw un o’r pleidiau hynny yn bleidlais dros ragor o’r un peth.

“A dydy Reform na’r Gwyrddion ddim yn bleidiau gwleidyddol credadwy na difrifol. 

“Maen nhw’n peri risg i’n diogelwch, a heb y profiad, yr angerdd na’r atebion sydd eu hangen ar Gymru.”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran plaid Reform UK y byddai pobl Cymru yn “diystyru” yr hyn oedd gan y Ceidwadwyr i’w ddweud.

“Mae’n amlwg bod y Torïaid Cymreig yn gwybod nad ydyn nhw yn mynd i fod yn arwain Llywodraeth nesaf Cymru, felly maen nhw wedi dechrau gwneud addewidion rhyfedd na ellid byth eu cyflawni,” meddai.

“Yn wahanol i’r Torïaid, mae gan Reform faniffesto difrifol, wedi’i brisio, y byddwn yn ei ddatgelu yn ddiweddarach yr wythnos hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.