Trump yn dweud y bydd modd cynnal y rhyfel yn erbyn Iran ‘am byth’
Mae Donald Trump wedi dweud bod gan yr Unol Daleithiau'r adnoddau i barhau i ymosod ar Iran “am byth” wrth i’r rhyfel ymestyn i’w bedwerydd diwrnod.
Mae lluoedd Israel yn parhau â’u hymosodiadau ar Tehran a Beirut, tra bod dau ddrôn wedi taro Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Riyadh, Saudi Arabia.
Mae Iran hefyd wedi bygwth cau Culfor Hormuz, sy’n allweddol i gludo tua un o bob pum casgen o olew'r byd o’r Dwyrain Canol i weddill y byd.
Dywedodd swyddog o Warchodlu Chwyldroadol Iran y bydd unrhyw longau yn y culfor yn cael eu “rhoi ar dân”.
Mewn neges ar Truth Social, fe wnaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau wadu adroddiadau fod stoc arfau’r Unol Daleithiau yn y rhanbarth yn prinhau.
Roedd papur newydd The Wall Street Journal wedi tynnu sylw at amheuon ymhlith sylwebwyr milwrol fod gan yr Unol Daleithiau ddigon o daflegrau i barhau i ryng-gipio taflegrau a dronau Iran.
Ond awgrymodd Mr Trump fod gan yr UDA gyflenwad “bron yn ddiderfyn” o daflegrau ac y gallai gynnal y gwrthdaro “am byth”.
“Nid yw stociau munisiwn yr Unol Daleithiau [...] erioed wedi bod yn uwch nac yn well - fel y dywedwyd wrtha i heddiw, mae gennym gyflenwad bron yn ddiderfyn o’r arfau hyn,” meddai.
“Gellir ymladd rhyfeloedd ‘am byth’, ac yn llwyddiannus iawn, gan ddefnyddio’r cyflenwadau hyn yn unig (sy’n well nag arfau gorau gwledydd eraill!).”
Yn yr un neges, dywedodd Mr Trump fod ei ragflaenydd Joe Biden wedi rhoi llawer o’r taflegrau “o’r radd uchaf” i Wcráin, gan ychwanegu:
“Yn ffodus, fe wnes i ailadeiladu’r fyddin yn fy nhymor cyntaf, ac rwy’n parhau i wneud hynny,” meddai.
“Mae’r Unol Daleithiau yn barod i ENNILL, YN FAWR!!!”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Marco Rubio, ddydd Llun fod “yr ergydion caletaf eto i ddod” gan fyddin yr Unol Daleithiau yn erbyn Iran.
Roedd yn siarad ar ôl i Donald Trump ddisgrifio ymosodiadau dydd Sadwrn fel “y cyfle olaf, gorau” i ddileu “bygythiadau” o Tehran.
‘Newid trefn o’r awyr’
Mae’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol hefyd wedi amlygu gwahaniaeth barn rhwng Donald Trump a Phrif Weinidog y DU, Keir Starmer.
Dywedodd Syr Keir Starmer ddydd Llun nad yw ei Lywodraeth “yn credu mewn newid trefn o’r awyr”.
Dywedodd y Prif Weinidog hefyd wrth Dŷ’r Cyffredin ddydd Mercher ei fod yn sefyll wrth ei benderfyniad i beidio â chymryd rhan yn nhon gyntaf ymosodiadau yr UDA ac Israel ar Iran.
Mynnodd bod rhaid i unrhyw gam milwrol gan y DU “bob amser” fod â sail gyfreithiol a chynllun ymarferol y tu ôl iddo.
Roedd Mr Trump wedi beirniadu penderfyniad Syr Keir i beidio â chaniatáu i awyrennau’r UDA ddefnyddio canolfannau yn y DU i gynnal yr ymosodiadau, gan ddweud wrth y Telegraph ei fod yn “siomedig iawn” yn y Prif Weinidog.
Mae canolfannau yn y DU bellach yn rhan o’r gwrthdaro, ond dim ond fel y gall yr UDA daro mewn ffordd amddiffynnol i ddiogelu gwledydd sy’n cael eu targedu gan Tehran.
Deellir bod hyn yn cynnwys y ganolfan ar y cyd rhwng yr UDA a’r DU yn Diego Garcia yn y Cefnfor India, ac RAF Fairford yn Swydd Gaerloyw.