Trump yn canmol ei hun yn yr araith Cyflwr y Genedl hiraf erioed

Donald Trump yn gwneud ei araith Cyflwr y Genedl

Mae'r Arlywydd Trump wedi canmol ei hun yn ei flwyddyn gyntaf yn ôl yn y Tŷ Gwyn wrth iddo draddodi yr araith Cyflwr y Genedl hiraf erioed. 

Yn ystod yr araith fe bwysleisiodd sawl gwaith ei agenda economaidd gan ddweud fod yr economi yn "rhuo fel na welwyd o'r blaen" a bod hyn yn "gyfnod aur" i America.

Fe siaradodd Trump am bron i awr a 50 munud o flaen y gyngres.

Dywedodd bod y tariffau y mae wedi eu gosod ar wledydd ar gyfer nwyddau sydd yn cael eu mewnforio yn "gweithio yn dda" ac y byddant yn parhau.

Daw ei sylwadau wedi i'r Goruchaf Lys ddyfarnu ei fod wedi mynd y tu hwnt i'w awdurdod pan gyflwynodd dollau ar nifer o wledydd fis Ebrill y llynedd.

Yn ôl Trump fe fydd tariffau yn y pendraw yn "disodli trethi incwm". 

Cyfeiriodd hefyd at berthynas America gydag Iran gan ddweud mai ei "ffafriaeth yw i ddatrys problemau trwy ddiplomyddiaeth". Ond rhybuddiodd y wlad i beidio bwrw ymlaen i gael rhaglen arfau niwclear.

Roedd yna weiddi rhwng Trump a rhai Democratiaid ynglŷn â swyddogion ffederal yn y wlad. 

Daw hyn ar ôl i ddau berson gael eu saethu yn farw gan swyddogion ffederal a beirniadaeth lem ynglŷn â'r mater.

Defnyddiodd ei araith hefyd i roi medalau ac anrhydeddau i "wladgarwyr anhygoel America".

Dywedodd y Democrat Abigail Spanberger, llywodraethwr Virginia bod yr Arlywydd ddim yn "cynnig unrhyw atebion go iawn i'r heriau dybryd sydd yn wynebu ein cenedl". 

Ond mae'r Gweriniaethwyr wedi canmol ei araith gyda'r Llefarydd Mike Johnson yn dweud ei fod yn cynnig "gymaint o newyddion da i bobl America."

Llun: REUTERS

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.