Trump: ‘Bygythiadau’ arweiniodd at symud awyrennau bomio o RAF Fairford
Mae Donald Trump wedi dweud bod Awyrlu'r Unol Daleithiau wedi penderfynu symud awyrennau bomio America o ganolfan RAF Fairford yn Swydd Gaerloyw oherwydd ‘bygythiadau’ i’r safle.
Daeth cadarnhad ddydd Sul bod ryw ddwsin o awyrennau B-1 wedi eu symud o Brydain i'w canolfannau yn America.
Mae Arlywydd America wedi dweud yn ddiweddarach mai’r rheswm am eu symud o RAF Fairford oedd eu bod yn ymwybodol o “fygythiad”.
Mae llefarydd ar ran Rhif 10 Downing Street yn mynnu bod safle RAF Fairford yn ddiogel.
Roedd Mr Trump wedi canmol ymateb “heddlu a gwasanaethau amddiffyn a diogelwch” y Deyrnas Unedig mewn sylwadau yr wythnos diwethaf.
Ond wrth siarad â’r wasg ddydd Llun, dywedodd fod y penderfyniad i symud yr awyrennau wedi’i wneud ar ôl i’r heddlu dderbyn adroddiadau o “gerbydau amheus” yn agos i’r safle mewn digwyddiad o bwys ar 27 Medi.
Gofynnwyd i Mr Trump yn Nebraska ddydd Llun ai “bygythiad penodol” oedd wedi arwain at benderfyniad awyrlu’r wlad.
“Ia, dwi’n meddwl gallwn ni ddweud hynny," meddai. "Nid ar hap a damwain wnaeth yr awyrennau adael."
“Roedd yna rhai bygythiadau. Ac yn hytrach na themtio’r gelyn, fe wnawn ni ddal y gelyn a churo’r gelyn. Ond pham ddylwn ni eu gadael yno? Felly fe wnaethon ni eu symud ychydig. Ddim yn rhy bell.”
Ychwanegodd bod Washington “yn adnabod y bobl a wnaeth y bygythiad,” ond ni wnaeth gadarnhau pwy.
Arestiadau
Daw hyn wedi i chwech o ddynion gael eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â therfysgaeth mewn cysylltiad â digwyddiad yno yn ystod oriau mân fore Sul, 27 Medi.
Ddydd Sadwrn, dywedodd yr heddlu gwrthderfysgaeth fod chweched dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn RAF Fairford wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y dyn 25 oed, sydd â dinasyddiaeth Brydeinig ac Iranaidd, ei arestio ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd terfysgol o dan Adran 5 Deddf Terfysgaeth 2006.
Cafodd pump o ddinasyddion Prydain, sydd i gyd yn eu 20au, eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â ffrwydron a therfysgaeth. Cawson nhw eu rhyddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.
Dywedodd un o swyddogion y Pentagon ddydd Sul eu bod yn “gallu cadarnhau bod holl awyrennau bomio’r Unol Daleithiau a oedd wedi’u lleoli yn RAF Fairford” wedi dychwelyd i’w canolfannau yn yr Unol Daleithiau.
“Mae’r criwiau sy’n gweithredu awyrennau bomio America, gan gynnwys awyrennau B-1, B-2 a B-52, yn dal yn barod i gynnal ymosodiadau manwl gywir ledled y byd – gan gynnwys ymgyrchoedd lle mae’r awyrennau’n hedfan o dir mawr yr Unol Daleithiau ac yn dychwelyd yno – unrhyw le, unrhyw bryd,” meddai’r llefarydd.
Prif lun: Donald Trump / Awyren bomio B-10 oedd wedi'i leoli yng Nghanolfan RAF Fairford (Llun: PA)
