Tri sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn o Aberystwyth yn y carchar 'heb gynnig unrhyw esboniad'

Kyle Bevan

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.

Mae llys wedi clywed nad yw tri charcharor sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio dyn o Aberystwyth, a oedd wedi lladd plentyn yn Sir Benfro, erioed wedi cynnig esboniad am yr hyn ddigwyddodd.

Mae’r carcharorion Mark Fellows, 45, Lee Newell, 57, a David Taylor, 64, wedi’u cyhuddo o lofruddio Kyle Bevan, 33 oed, yng ngharchar diogelwch uchel HMP Wakefield yng Ngorllewin Sir Efrog ar 4 Tachwedd y llynedd.

Roedd Bevan yn treulio dedfryd oes gydag isafswm o 28 mlynedd am lofruddio merch ddwyflwydd oed ei bartner, Lola James, yn Hwlffordd yn 2020.

Mae erlynwyr yn dweud bod y tri diffynnydd wedi cael eu gweld ar deledu cylch cyfyng yn mynd i mewn i’w gell ac yn dod allan lai na phum munud yn ddiweddarach.

Cafodd Bevan ei roi “yn dwt yn ei wely” ar ôl yr ymosodiad ac ni chafodd ei ddarganfod tan y bore canlynol.

Roedd wedi gwaedu i farwolaeth ar ôl dioddef 25 o glwyfau trywanu.

Mae’r tri diffynnydd wedi dewis peidio â rhoi tystiolaeth yn eu hachos llys yn Llys y Goron Leeds.

Wrth roi ei araith gloi i’r rheithwyr ddydd Mercher, dywedodd yr erlynydd Jason Pitter KC: “Does dim un ohonyn nhw wedi manteisio ar y cyfle i esbonio i chi, i’r llys, nac i’r heddlu ar unrhyw adeg, beth ddigwyddodd. 

“Rydyn ni’n dadlau mai’r rheswm am hynny yw nad ydyn nhw’n gallu.”

Dywedodd Mr Pitter fod lladd Bevan yn “ymgyrch wedi’i chydlynu’n ofalus a gafodd ei chyflawni’n hynod effeithlon gan bobl oedd … yn gwybod beth roedden nhw’n ei wneud”.

Roedden nhw “wedi’i roi’n dwt yn ei wely … wrth iddo waedu ar ei fatres, gan edrych, i bob pwrpas, fel petai’n cysgu”.

Dywedodd wrth y rheithgor fod yr ymosodiad wedi digwydd mewn “pedwar munud a 39 eiliad pan oedd y tri ohonyn nhw yn y gell fach honno gyda’i gilydd”.

‘Dim mymryn o dystiolaeth’

Dywedodd Joe Stone KC, sy’n amddiffyn Newell, wrth y rheithgor nad oedd teledu cylch cyfyng yn y gell.

“Y gwir amdani yw nad ydych chi’n gwybod 100% beth ddigwyddodd yn y gell honno, yn ystod y pum munud hynny,” meddai.

“Mae’n dasg anodd i reithgor asesu’r dystiolaeth ar gyfer y tri dyn hyn pan mae’r twll du tystiolaethol hwnnw yn eich wynebu.

“Pwy oedd y sawl a drywanodd? A oedd mwy nag un yn trywanu? A oedd rhywun yno a wnaeth ddim byd?”

Dywedodd nad oedd “mymryn o dystiolaeth” fod Newell wedi bod ag arf, nac unrhyw “dystiolaeth waed” yn ei gysylltu â’r ymosodiad.

Dywedodd Nick Johnson KC, sy’n amddiffyn Fellows, wrth y rheithwyr: “Yn y wlad hon, dydych chi ddim yn dweud ‘mae tri dyn drwg wedi mynd i mewn i gell, mae’n debyg mai nhw wnaeth e’… 

“Dim ond chi sy’n penderfynu ble mae cyfiawnder yn yr achos hwn.”

Gofynnodd i’r rheithgor ystyried dewis arall, sef bod Fellows wedi mynd i gell Bevan at ddiben arall a “bod trais wedi digwydd nad oedd ganddo ran ynddo, hyd yn oed os oedd yn hapus i’w gelu wedyn”.

Mae’r tri diffynnydd yn gwadu llofruddiaeth ac mae’r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.