Tri aelod o'r Llynges wedi marw mewn damwain hofrennyd yn Nyfnaint

hofrennydd PA

Mae tri aelod o'r Llynges wedi marw mewn damwain hofrennydd yn Nyfnaint yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd llefarydd ddydd Mercher: “Gyda thristwch dwfn y gallwn gadarnhau bod tri aelod o’r Llynges Frenhinol wedi marw yn ystod ymarfer hyfforddi hofrennydd ddydd Mercher 3 Mehefin ger Sourton, Dyfnaint.

“Mae teuluoedd y milwyr wedi cael gwybod ac wedi gofyn am gyfnod o breifatrwydd cyn rhyddhau manylion pellach.

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau yn yr amser trist hwn.”

Dywedodd pennaeth y Llynges, y Cadfridog Syr Gwyn Jenkins, mewn datganiad: “Rwy’n drist iawn o rannu’r newyddion bod tri aelod o’r criw ar fwrdd hofrennydd Merlin Mk4 y Llynges Frenhinol wedi marw mewn damwain yn oriau mân y bore yma ger Sourton, Dyfnaint.

“Rwy’n gwybod y bydd hyn yn sioc enfawr i bawb yn ein cymuned Lyngesol, ac mae fy nghydymdeimlad dwysaf yn mynd allan i’r teuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid yr effeithiwyd arnynt gan y drasiedi hon.

“Hoffwn ddiolch i Heddlu Dyfnaint a Chernyw a’r timau chwilio ac achub a ymatebodd i’r digwyddiad y bore yma.

“Mae ymchwiliad ar y gweill a bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu maes o law.”

Mae nifer o ffyrdd ar gau o amgylch ardal Sourton Cross ar yr A386 a'r A30 ar hyn o bryd.

Mae'r ardal rhwng canolfannau awyr y Llynges Frenhinol yn Yeovilton yng Ngwlad yr Haf a Culdrose yng Nghernyw.

Mae lleoliad y ddamwain yn agos at wersyll Okehampton, safle milwrol ar gyrion Dartmoor sy'n cael ei ddefnyddio i hyfforddi criwiau hofrennydd.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Syr Keir Starmer ei fod yn "ymwybodol o ddamwain hofrennydd y Llynges Frenhinol y bore yma yn Nyfnaint".

"Bydd hwn yn gyfnod pryderus iawn i’r teuluoedd a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosib," meddai.

 
 
 
 
 
 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.