Tref yn Sir Fynwy ymhlith ‘y gorau i fyw ynddi’ ym Mhrydain
Mae tref yn Sir Fynwy wedi ei henwi ymhlith ‘y llefydd gorau i fyw’ ym Mhrydain.
Fe ddaeth Brynbuga yn chweched ar ganllaw flynyddol y Sunday Times am y llefydd gorau i fyw ym Mhrydain.
Mae’r beirniaid yn ystyried nifer o ffactorau yn cynnwys ysgolion yr ardal, trafnidiaeth, cyflymder band eang a signal ffôn symudol i gyfleusterau, yn ogystal â mynediad at fannau gwyrdd o ansawdd uchel ac iechyd y stryd fawr.
Dywedodd y beirniaid am Frynbuga: “Mae gwirfoddolwyr yn ymwneud â phopeth yn y ‘dref flodau’ o blannu’r 2,500 o blanhigion i sicrhau ei gwobr aur ddiweddaraf Prydain yn ei Blodau i gynnal Sioe Brynbuga flynyddol. Mae’n lle lle darperir blychau nythu ar gyfer gwenoliaid duon, lle ymgyrchodd nofwyr gwyllt dros uwchraddio dŵr gwastraff gwerth £10 miliwn i frwydro yn erbyn llygredd afonydd.”
Dywedodd golygydd y canllaw, Helen Davies: “Mae’r canllaw hwn yn gyfle gwych i dynnu sylw at y lleoedd gorau ym Mhrydain.
“Mae’n llawn lleoedd sy’n dangos y gall canol ein pentrefi, trefi a dinasoedd fod yn llawn bywyd o hyd, yn ogystal â lleoedd sy’n llawn harddwch naturiol, diwylliant, cysylltedd ac yn bwysicaf oll ymdeimlad o gymuned.
Norwich ddaeth ar frig y rhestr o 72 o leoliadau sydd yn cael ei ryddhau ar-lein ddydd Gwener.
