Trafferthion technolegol Microsoft yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
Mae heddluoedd a'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ymysg y sefydliadau sydd wedi eu heffeithio wrth i Microsoft geisio datrys trafferthion technolegol fyd-eang ddydd Gwener.
Mae gwasanaethau gan gynnwys Teams, Outlook a’r meddalwedd AI Copilot wedi eu heffeithio gan “broblemau cysylltu”.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod nhw wedi eu heffeithio gan "broblemau byd-eang gyda Microsoft 365".
"Rydym yn profi rhywfaint o oedi wrth dderbyn ac ymateb i negeseuon e-bost ac ymholiadau ar-lein ar hyn o bryd," medden nhw.
"Fodd bynnag, nid yw’r problemau’n effeithio ar ein gwasanaethau sgrinio. Os oes gennych apwyntiad sgrinio heddiw, dylech fynd iddo fel arfer.
"Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys am apwyntiad sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm perthnasol yn uniongyrchol dros y ffôn."
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedden nhw'n gallu derbyn rhai negeseuon.
"Mae’r rhain wedi effeithio ar ein gallu i dderbyn adroddiadau ar-lein drwy’r wefan, yn ogystal â negeseuon drwy gyfeiriad e-bost cyffredinol ein canolfan gyswllt," medden nhw.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw hefyd yn wynebu problemau technolegol wrth dderbyn adroddiadau drwy eu gwefan, ac roedden nhw'n annog pobl i ffonio yn lle.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith, medden nhw.
Dywedodd llefarydd: “Rydym yn monitro’r effaith ar wasanaethau’r llywodraeth ac yn defnyddio trefniadau wrth gefn yn ôl yr angen.”
Gweithio ar sawl trywydd
Dywedodd Microsoft nad digwyddiad seiberddiogelwch sydd wedi achosi’r broblem.
Mae defnyddwyr mewn 74 o wledydd wedi’u heffeithio, ac mae’r broblem wedi para am fwy nag 11 awr.
Dywedodd Microsoft nad yw ei ymdrechion i ddatrys y broblem wedi “gweithio yn ôl y disgwyl”.
Mae mwy na 430 miliwn o bobl yn defnyddio gwasanaethau Microsoft 365, ac mae’r cewri technoleg OpenAI ac Anthropic wedi adrodd am broblemau o ganlyniad.
Am 5.00 fore ddydd Gwener dywedodd Microsoft ei fod yn dal i weithio ar ffyrdd o ddatrys y broblem.
Dywedodd y cwmni ei fod yn “gweithio ar sawl trywydd i leihau’r effaith” ac i sicrhau bod gwasanaethau’n “gweithio’n iawn” eto.
Dywedodd fod yn gweld gwasanaethau’n “gwella’n rhannol” mewn rhanbarthau lle mae wedi ceisio datrys y problemau. Ond nid oedd y camau hyn yn “arwain at welliant parhaus”.