Toy Story 5: ‘Does dim eisiau bod ofn technoleg’

Toy Story 5

Mae arbenigwraig wedi annog rhieni i beidio â gweld technoleg a theganau traddodiadol fel dau beth sy’n gwrthwynebu ei gilydd, wrth i rag-ddangosiad gala o Toy Story 5 gael ei gynnal yn Llundain ddydd Sul.

Yn y bumed ffilm yn y gyfres boblogaidd, mae Woody, Buzz Lightyear, Jessie a gweddill y teganau yn wynebu bygythiad newydd i’w lle ym mywyd Bonnie.

Mae Lilypad, tabled clyfar, yn tynnu sylw’r plentyn oddi ar ei theganau traddodiadol ac yn gadael y criw yn poeni am eu dyfodol.

Mae’r stori, sy’n gosod teganau cyfarwydd y gyfres yn erbyn technoleg fodern, wedi codi cwestiynau am effaith sgriniau a dyfeisiau electronig ar y ffordd mae plant yn chwarae.

Ond yn ôl Donna Dixon, darlithydd mewn Addysg, Plentyndod ac Astudiaethau Ieuenctid ym Mhrifysgol Bangor, nid yw’r ddadl mor syml â thechnoleg yn cymryd lle teganau.

“Dydy o ddim yn fater o roi teganau a thechnoleg yn erbyn ei gilydd,” meddai.

“Mae o wedi jyst newid y ffordd mae plant yn chwarae.

“Be sydd wedi digwydd ydy mae plant dal yn chwarae, jyst mae nhw’n chwarae mewn ffordd wahanol.”

‘Nid yw pob math o amser sgrîn yr un fath’

Dywedodd Ms Dixon fod technoleg ddigidol wedi dod yn rhan arferol o fywydau plant o oedran ifanc iawn.

Yn ôl ymchwil ddiweddar gan Ofcom, mae 85% o rieni plant rhwng chwe mis a dwy oed yn dweud bod eu plentyn yn edrych ar sgriniau.

Dywedodd Ms Dixon ei bod yn ddealladwy bod pryderon yn codi ynghylch a yw technoleg yn disodli mathau mwy traddodiadol o chwarae.

Ond ychwanegodd nad yw pob math o amser sgrîn yr un fath.

Mae gwahaniaeth, meddai, rhwng plentyn sy’n defnyddio technoleg i greu, dysgu neu ryngweithio ag eraill, a phlentyn sy’n treulio oriau yn sgrolio drwy gynnwys ar y dyfeisiau yn ddi-feddwl.

“Dydy’r ddadl ddim am faint o amser mae plant yn chwarae ar y sgriniau, ond be mae nhw’n neud arnyn nhw,” meddai.

Image
Woody a Buzz
Dyma'r bumed tro i Woody, Buzz Lightyear a'r criw ddychwelyd i'r sgrîn fawr

“Mae chwarae yn rili bwysig i ddatblygiad plant,” meddai.

“Ydy plant dal yn cael chwarae mewn ffordd lle mae nhw’n creu dychymyg, datrys problemau, chwarae rôl ac yn y blaen?

“Achos mae cyfuniad o’r ddau yn bwysig.”

Dywedodd fod chwarae yn helpu plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, creadigrwydd, dychymyg a’r gallu i ddatrys problemau.

Mae Pob Plentyn Cymru, ymgyrch gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynghori na ddylai plant dan ddwy oed gael amser sgrîn o gwbl yn ddelfrydol.

Ar gyfer plant dros ddwy oed, mae’n argymell na ddylent dreulio mwy na dwy awr y dydd o flaen sgrîn.

Mae’r cyngor hefyd yn annog rhieni i osod esiampl drwy gyfyngu ar eu defnydd eu hunain o ffonau a sgriniau pan fydd eu plant yn effro..

Image
Lilypad
Lilypad, y tabled, yw'r bygythiad newydd yn Toy Story 5

Mae ymchwil Ms Dixon wedi edrych ar arferion rhieni a’r modd y gall defnydd oedolion o ddyfeisiau ddylanwadu ar blant.

Dywedodd nad yw hynny’n golygu bod angen i rieni osgoi technoleg yn llwyr, ond ei bod yn bwysig meddwl am y ffordd mae dyfeisiau yn cael eu defnyddio yn y cartref.

“Mae technoleg yn gallu bod yn rhan o fywydau,” meddai.

“Os ydy rhywun yn gallu ffeindio’r balans, does dim eisiau bod ofn.

Mae Toy Story 5 yn cael ei rhyddhau mewn sinemâu ar 19 Mehefin.

Lluniau: Disney Pixar

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.