Tirlithriad ar draeth Nefyn ym Mhen Llŷn
Mae'r gwasanaethau brys wedi rhybuddio pobl i gadw draw o dirlithriad ar draeth Nefyn ym Mhen Llŷn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau fod darn o dir wedi cwympo i'r traeth ger maes parcio'r traeth ddydd Mawrth.
Mae swyddogion o Gyngor Gwynedd, Gwylwyr y Glannau a'r heddlu yn monitro'r sefyllfa ar hyn o bryd.
Mae'r awdurdodau wedi rhybuddio y gall rhagor o dir gwympo, ac felly wedi cynghori pobl i gadw draw.