Teyrngedau i ddynion ifanc 'hardd a charedig' a fu farw ar yr Wyddfa

Eddie Hill a Jayden Long

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau ddyn ifanc “anhygoel a charedig” a fu farw wedi iddynt fynd ar goll ar yr Wyddfa yn Eryri. 

Fe ddaeth criwiau achub o hyd i’r dynion 19 ac 20 oed ddydd Iau wedi i Heddlu’r Gogledd gael gwybod bod pryderon am les y ddau ddydd Mercher. 

Cafodd enwau Eddie Hill a Jayden Long o Dereham yn Norfolk eu cyhoeddi'n lleol ddydd Sadwrn ar ôl i’r heddlu gyhoeddi eu bod wedi dod o hyd i ddau gorff. 

Mae eu teuluoedd bellach wedi cyhoeddi teyrngedau iddynt ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Dywedodd Josie Long, chwaer Jayden: “Dwi methu coelio’r ffaith bod rhaid i mi ‘sgrifennu hyn ond yn anffodus, fe wnaeth fy mrawd anhygoel, caredig a gofalgar farw ddydd Mercher. 

“Does dim modd cyfleu mewn geiriau pa mor anodd yw hyn i mi ac i bawb oedd yn adnabod Jayden. 

“Roedd e’n gwneud rhywbeth oedd e’n ei garu ac fe wnaeth ein gadael yn rhy fuan a bydd colled ar ei ôl am byth.” 

Mewn teyrnged arall ar y cyfryngau cymdeithasol, fe gafodd Eddie Hill ei ddisgrifio fel “bachgen hardd y tu mewn ac allan” gan ei frawd, Harry. 

“Dydy geiriau methu disgrifio’r boen yr wyf i a fy nheulu yn ei brofi ar hyn o bryd,” meddai. 

Dywedodd fod Eddie yn “frawd hŷn hardd” a “mab oedd wedi’i garu” gan ychwanegu fod ganddo “gynlluniau mawr ar gyfer ei ddyfodol.” 

“Fe fydd colled fawr ar ei ôl.” 

Fe aeth criwiau achub o Lanberis, Aberglaslyn, criw achub mynydd yr awyrlu a gwylwyr y glannau i chwilio amdanynt ar yr Wyddfa ddydd Mercher tan oriau mân fore Iau. 

Ail ddechreuodd y chwilio tua 8:00 fore Iau. 

Cyhoeddodd Heddlu'r Gogledd ddydd Sadwrn fod cyrff dau ddyn ifanc wedi eu darganfod, a'u bod wedi cysylltu â theuluoedd y ddau. 

Dywedodd Jurgen Dissmann, Cadeirydd Criw Achub Mynydd Llanberis: "Ar ein rhan ni i gyd, hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deuluoedd ac anwyliaid y ddau ddyn sydd wedi colli eu bywydau yn y modd trasig hwn.

Llun: Eddie Hill a Jayden Long (lluniau teulu)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.