Teyrnged teulu i ddyn a fu farw tra'n cerdded ar gyrion Caerfyrddin
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar fordd yr A40 yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mawrth 28 Gorffennaf wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Gerard Trojanowski'n 44 oed.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu ei fod yn "yn ŵr ac yn dad cariadus" oedd yn "berson rhyfeddol a hael â chalon dda".
"Bydd yn aros yn ein hatgofion am byth."
Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gyfeirio eu hunain i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn y digwyddiad rhwng cylchfan Currys a chylchfan Abergwili am tua 21:50.
Derbyniodd yr heddlu adroddiad yn mynegi pryder ar y pryd am ddiogelwch cerddwr ar y ffordd.
Ar ôl anfon swyddogion i'r lleoliad, daeth adroddiadau pellach fod nifer o gerbydau wedi taro'r cerddwr cyn i'r swyddogion gyrraedd.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, daeth adroddiadau hefyd fod un o'u cerbydau, a oedd yn gyrru ar yr A40 ar y pryd, wedi taro'r cerddwr cyn i'r heddlu gyrraedd.
Bu farw Mr Trojanowski yn y fan a'r lle.
Mewn datganiad yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Gwnaed atgyfeiriad gorfodol i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu; mae hwn yn ofyniad statudol ar gyfer digwyddiadau o'r fath er mwyn sicrhau goruchwyliaeth annibynnol.
"Byddai'n amhriodol i ni wneud sylwadau pellach nes bod Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cwblhau eu hasesiad.
"Hoffai'r swyddogion sy'n ymchwilio siarad ag unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn, yn ogystal â gyrwyr oedd yn teithio ar hyd yr A40 ar y pryd - yn enwedig unrhyw un â chamera dashfwrdd yn eu cerbydau."
Mae teulu Mr Trojanowski wedi gofyn am breifatrwydd yn dilyn ei farwolaeth.