‘Dim galw’ am adfer Theatr y Maes meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod

Mari Hwyr

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud nad oes galw am ddod â Theatr y Maes yn ei hôl.

Daw ei sylwadau wedi i’r actor a’r cyfarwyddwr theatr, yr Athro Jeremy Turner, ddweud bod angen adeilad Theatr ar y Maes unwaith eto.

Dywedodd Jeremy Turner ei fod yn “drueni nad oes theatr pwrpasol ar faes ein Prifwyl” a bod perfformwyr yn gweithio mewn gofodau “anghydnaws ac anaddas” o ganlyniad.

Roedd yna hefyd heriau o ran sicrhau mynediad i bobl anabl, meddai.

“Yn fy nhyb i mae’r Eisteddfod wedi esgeuluso theatr ac anghenion theatr ers sawl blwyddyn nawr,” meddai wrth Radio Cymru.

Does dim Theatr y Maes wedi bod ers Eisteddfod Boduan ar Ben Llŷn yn 2023. Dywedodd yr Eisteddfod bryd hynny mai dim ond un cwmni oedd wedi gofyn am gael defnyddio’r gofod.

Yn hytrach, mae perfformiadau theatrig wedi cael eu cynnal ar draws y maes dros y tair blynedd diwethaf. 

Image
Perfformiad ar y Maes
Perfformiad ar y Maes

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Os fyddai ’na alw gyda’r Maes Theatr, gallwn ni ail-edrych, ond does ’na ddim.”

Dywedodd wrth Newyddion S4C eu bod nhw’n cynnal trafodaethau gyda’r bobl sy’n gweithio gyda chynhyrchwyr a’r cwmnïau sydd yn rhan o'r Brifwyl bob blwyddyn. 

“A dros bum mlynedd yn ôl roedd pobl yn dweud bod un theatr sy’n cyfyngu ni o ran be ni’n gallu cynhyrchu, be ni’n gallu dangos,” meddai.

“Gyda defnyddio’r is-bafiliynau, mae ’na botensial i gynhyrchwyr fod yn fwy creadigol, iddyn nhw edrych ar y rhaglen sydd ganddyn nhw a be maen nhw’n gallu gwneud.

“Felly mae pob un o’r cwmnïau ni wedi siarad gyda wedi edrych ar ba bafiliynau a’r strwythur sydd yno, ac wedi gofyn, a dyma yw eu hawydd nhw.

“Mae’r canlyniadau’n glir: mae hwn yn gweithio. Mae gennym ni fwy o gynyrchiadau, mae gennym ni fwy o bobl yn mynd i weld theatr nag erioed o’r blaen. 

“Mae’n braf fod yr elfen ’ma o ddefnyddio is-bafiliynau, a bod pobl yn teimlo’n gyfforddus i fynd.”

Llun: Mari Hwyr! Un o'r perfformiadau yn yr awyr agored ar faes yr Eisteddfod eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.