Teyrnged teulu i dad-cu 78 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad

Keith Evans

Mae teulu dyn 78 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad yn y Rhondda wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud eu bod "wedi eu llorio'n llwyr" gan ei farwolaeth.

Bu farw Keith Evans, o ardal Ton Pentre, yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Ystrad yn y pentref am tua 17:05 ddydd Iau, 19 Tachwedd.

Roedd Mr Evans yn cerdded pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Mae ein teulu cyfan wedi ei lorio'n llwyr gan ei farwolaeth sydyn a thrasig.

"Roedd Keith yn ŵr, tad, brawd, ewythr, tad-cu a hen dad-cu ymroddedig, oedd yn benderfynol o amddiffyn y rhai yr oedd yn eu caru.

"Heb os, bydd pawb oedd yn ei adnabod yn ei gofio am ei agwedd ifanc at fywyd, ei synnwyr digrifwch gwych a'i ymroddiad i'w deulu.

"Mae ein dyfodol bellach yn ymddangos yn dywyll heb ei oleuni, ei allu i dynnu coes, ei natur hynod amddiffynnol a'i gariad."

Diolchodd y teulu i'r gwasanaethau brys am eu cefnogaeth, yn ogystal â phawb sydd wedi anfon negeseuon o gydymdeimlad.

"Wrth i ni geisio dod i delerau â'r drasiedi ddisynnwyr hon a chydweithio â'r awdurdodau, rydym yn dymuno ymdopi â'n galar a'r sioc yn breifat.

"Felly, gofynnwn yn barchus am gael llonydd i wneud hynny."

Mae swyddogion yr heddlu yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â lluniau o gamerâu dashcam i gysylltu â nhw, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600377392.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.