Teyrnged mab i'w dad 102 oed a fu farw ar ôl ymosodiad honedig mewn tafarn
Mae mab dyn 102 oed a fu farw ar ôl ymosodiad honedig mewn tafarn wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud ei fod yn "gymeriad" oedd yn wyneb "adnabyddus" yn y gymuned.
Bu farw Phillip Ormerod o Gwmbrân yn yr ysbyty ar ôl adroddiadau o ymosodiad yn nhafarn The Crow’s Nest yn y dref am tua 22.25 ar nos Sadwrn 1 Awst.
Fe gafodd dyn 56 oed o Lanelli ei arestio ar amheuaeth o ymosod cyn cael ei ryddhau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Dywedodd mab Phillip, Robert wrth asiantaeth newyddion PA fod gan ei dad ddementia ac roedd yn byw ar ei ben ei hun yn Llanyrafon yng Nghwmbrân.
Ychwanegodd fod ei dad yn mynd i dafarn y Crow's Nest yn aml, ac yn gymeriad poblogaidd ymysg y bobl ifanc yno, a fyddai'n prynu peint i'r dyn 102 oed.
"Dwi'n teimlo'n drist," meddai Robert. "Er ei fod e'n gallu bod yn anodd oherwydd ei oedran a dementia, ti dal yn dod i'r arfer o'i gael o gwmpas.
"Ac er roeddwn i'n gwybod na fyddai'n byw am byth, byddai dad wedi byw am ychydig eto dwi'n credu."
Yn ôl Robert Ormerod, roedd ei dad yn berson adnabyddus yn yr ardal, ac yn ymweld â'r dafarn dwy neu dair gwaith yr wythnos.
"Roedd e'n adnabyddus o gwmpas fan hyn, er bod llawer o'i genhedlaeth wedi mynd bellach," meddai Robert.
"Mae'n debyg ei fod yn un o gymeriadau'r dafarn," ychwanegodd.
Ymchwiliad yn parhau
Mae'r Ditectif Brif Arolygydd Shelley Comley, sy'n arwain yr ymchwiliad, wedi gofyn i'r cyhoedd beidio â dyfalu am yr hyn a ddigwyddodd tra bod yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.
"Rydym yn deall diddordeb y cyhoedd yn y digwyddiad hwn, ond rydym eisiau atgoffa pobl nad ymchwiliad troseddol gweithredol yn unig yw hwn, ond bod teulu sydd wrth galon y digwyddiad wedi colli anwylyd.
"Plîs ystyriwch yr effaith y gallai sylwadau sy'n dyfalu am yr hyn a ddigwyddodd, yn enwedig ar-lein, ei gael ar y teulu a'r ymchwiliad."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a oedd yn y dafarn rhwng 22:00 a 23:00 ar nos Sadwrn 1 Awst ac sydd heb gysylltu â'r llu, i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600249432.