Teyrnged i 'ddyn teulu cariadus' a fu farw yng Nghaergybi dros y penwythnos
Mae teulu dyn 53 oed a fu farw yng Nghaergybi ddydd Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Michael Anthony Ward ar ôl cael ei ddarganfod mewn fflat yn Llys Watling ar Ffordd Llundain am tua 02:40.
Mae Martin Ward, 33 oed o Ffordd Kingsland, Caergybi, wedi cael ei gyhuddo ers hynny o lofruddio ei dad.
Dywedodd teulu Michael Ward: "Roedd ein tad yn ddyn teulu cariadus hefo calon fawr. Bydd colled fawr ar ei ôl.
"'Da ni'n gofyn i bobl barchu ein preifatrwydd ni yn y cyfnod anodd hwn wrth i ni ddod i delerau â'n colled ni."
Mae ymchwiliad llofruddiaeth yn cael ei gynnal ac mae ymchwiliadau i'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r farwolaeth yn parhau.
Fe fydd Martin Ward yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 26000852942.