Teyrnged gan dad y seiclwr Finlay Tarling i'w fab 'tyner a chariadus'

Finlay Tarding

Mae tad y seiclwr Finlay Tarling, a fu farw'n 19 oed wrth gymryd rhan mewn ras ym Mhortiwgal ddydd Gwener, wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Finlay, o Ffos-y-ffin ger Aberaeron, yn cystadlu dros NSN Development Team yn wythfed cymal y ras rhwng Melgaço a Fafe pan fu farw.

Yn ôl adroddiadau ym Mhortiwgal, cafodd ei daro gan gerbyd oedd yn teithio i’r cyfeiriad anghywir pan oedd y ras ychydig dros 20km o’r llinell derfyn.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fore dydd Sul, dywedodd Michael Tarling fod y teulu'n profi "dyddiau anoddaf ein bywydau".

Cefnogaeth

Dywedodd fod y gefnogaeth i'w deulu wedi'r farwolaeth wedi eu cynnal, gan gynnwys "negeseuon, e-byst, erthyglau a galwadau gan ein teulu, ffrindiau, y tîm, a’n cymunedau lleol a chwaraeon."

"Mae clywed faint o gariad ac edmygedd oedd gan bobl tuag at Fin wedi bod o gymorth mawr i ni," meddai.

"Ni allwn ddiolch digon i chi i gyd am y gefnogaeth rydym wedi ei gael. Dydyn ni ddim yn gwybod sut y byddwn yn symud ymlaen o hyn ymlaen, ond byddwn yn darganfod y ffordd gyda chefnogaeth ein teulu, ein ffrindiau a’n cymuned gyfan.

"Er na fydd ein calonnau sydd wedi eu torri byth yn gwella’n llwyr, roedd o nid yn unig yn fab ac yn frawd i ni, ond yn ffrind gorau hefyd. 

"Byddwn yn gweld ei eisiau yn aruthrol - roedd yn berson tyner a chariadus, gyda synnwyr digrifwch sych ac unigryw."

Dywedodd Mr Tarling fod ei fab wedi byw bywyd oedd yn llawn profiadau ac uchafbwyntiau rhyfeddol yn ystod ei 19 o flynyddoedd, "ac ni allem fod yn fwy balch ohono."

Ym mis Mehefin eleni, daeth Finlay yn drydydd ym Mhencampwriaeth Prydain yn erbyn y cloc, ac roedd wedi gorffen yn ail ar gymal o’r Tour du Rwanda yn gynharach yn y tymor.

Finlay oedd brawd iau’r seiclwr Josh Tarling, sy’n cystadlu dros Netcompany-Ineos.

Llun teulu

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.