Teyrnged i aelod 'ymroddedig' o Fad Achub Caergybi ar Ynys Môn
Mae Bad Achub Caergybi ar Ynys Môn wedi rhoi teyrnged i un o'u haelodau a fu farw yn annisgwyl ddydd Gwener diwethaf.
Roedd Matt Gration yn 'aelod ymroddedig' o griw y lan ym Mad Achub Caergybi, ac wedi bod yn gweithio yno ers 2024.
Mewn teyrnged, dywedodd Bad Achub Caergybi ei fod yn "hynod o ymroddedig, awyddus ac yn cyrraedd sesiynau hyfforddi gyda brwdfrydedd i ddysgu.
"Yn ogystal â'i hyfforddiant ei hun, roedd wastad yn barod i helpu gyda'u hyfforddiant nhw hefyd - yn chwaraewr tîm ymhob ffordd.
"Roedd yn hynod o feddylgar ac yn berson arbennig i gael sgwrs un i un, boed yn sôn am ei angerdd dros feiciau modur, ei gariad at yr awyr agored, ei ddyweddi Susie, ei gŵn, neu bron unrhyw beth arall - roedd hi bob amser yn bleser treulio amser gydag ef.
"Roedd ysbryd tîm Matt a'i garedigrwydd yn disgleirio, ac allwn ni ddim deall ei golled yn iawn."
Ychwanegodd llywiwr y bad achub yng Nghaergybi, Mark Wade: "Ers ei ddiwrnod cyntaf yn yr orsaf, gyda'i angerdd tuag at wirfoddoli ac i fod yn rhan o'r criw, roedd Matt wastad yn ymromeddig - yn cyflawni popeth ar hyd ei lwybr i fod yn rhan o griw y lan, yn cefnogi digwyddiadau ac ymweliadau, ac yn gwneud pob galwad ac ymarfer hyfforddi y gallai."