URC 'am fwrw ymlaen â'r Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol' er gwaethaf gwrthwynebiad
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi eu bod am fwrw ymlaen â'r Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol, wedi i un undeb ardal ddweud nad oes angen ei gynnal bellach.
Roedd Undeb Ardal Morgannwg Ganol (UAMG) wedi llwyddo i gael cefnogaeth digon o glybiau i gynnal y cyfarfod ar 15 Ebrill gyda thri chynnig oedd yn cynnwys pleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, a chadeirydd y bwrdd Rygbi proffesiynol, Malcom Wall.
Ond yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y bydd Collier-Keywood yn rhoi’r gorau i’w rôl mae UAMG eisiau i’r cyfarfod gael ei ganslo.
Mae Mr Collier-Keywood wedi bod yn y swydd ers 2023 ond bydd yn gadael ar 16 Gorffennaf ar ôl penderfynu peidio â cheisio am ail dymor.
Fe wnaeth UAMG ysgrifennu at glybiau yn eu hysbysu eu bod yn teimlo nad oes angen Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol ar hyn o bryd ac y byddant yn tynnu'r tri chynnig yn ôl.
Wrth ymateb ddydd Iau, dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod ganddyn nhw "barch gwirioneddol am y cais gwreiddiol wnaed gan URCM, eu hymgysylltiad gyda’r broses a’r 50 o glybiau arwyddodd yr alwad am y CCE.
"Wedi dweud hynny, mae’n rhaid i ni fod yn gwbl glir am un pwynt pwysig. Unwaith i Gyfarfod Cyffredinol Eithriadol gael ei alw, yn unol â’n herthyglau fel sefydliad, ni ellir ei ganslo wedi hynny.
"Nid dewis mympwyol gan yr Undeb yw hyn – mae’n ofyniad cyfreithlon i ni barhau er mwyn sicrhau bod ein gweithredoedd democrataidd yn parhau a bod hawliau’r 282 o glybiau sy’n aelodau yn cael eu parchu – gan gynnwys y clybiau nad arwyddodd y cynnig ffurfiol gwreiddiol.:
Ychwanegodd yr Undeb y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Llun 13 Ebrill am 18:00 yn Stadiwm Principality ac ar-lein hefyd.
Dywedodd URC hefyd eu bod yn disgwyl ceisiadau pellach i gefnogi cais ffurfiol URCM gan glybiau eraill eraill fu'n rhan o'r cynnig gwreiddiol.
Os oes digon o geisiadau yn cael eu derbyn, mae Undeb Rygbi Cymru'n cynnig ysgrifennu at y 282 o glybiau sy’n aelodau i ofyn os oes gan unrhyw glwb wrthwynebiad i’r tri chais gael eu tynnu’n ôl yn ffurfiol.
"Oni bai bod gwrthwynebiad gan y clybiau sy’n ymholi, bydd y cynigion ffurfiol yn cael eu tynnu’n ôl yn ffurfiol – a ni fydd pleidlais yn digwydd," meddai'r Undeb.
"Os oes gwrthwynebiad gan yr aelodaeth, bydd y CCE yn dechrau gyda chynnig i’r aelodaeth i bleidleisio os y dylai’r ceisiadau gwreiddiol gael eu tynnu’n ôl."
Os yw’r cynigion ffurfiol yn digwydd neu beidio, bydd y CCE ar y 13 Ebrill yn agored i aelodau, ac yn cynnwys y canlynol:
- Diweddariad a chyflwyniad gan Fwrdd Undeb Rygbi Cymru am faterion allweddol rygbi Cymru.
- Cyfle ffurfiol i glybiau holi tîm arweinyddol yr Undeb ac aelodau o Fwrdd yr Undeb
- Cyfle i fynychu’r cyfarfod yn bersonol yn Stadiwm Principality neu ar-lein.