Teulu tad o Lanuwchllyn a fu farw o ganser yn galw am driniaeth newydd
Mae teulu dyn o Lanuwchllyn a fu farw o fath ymosodol o ganser wedi galw ar swyddogion iechyd i ganiatáu triniaeth newydd sy'n cynnig gobaith am "fywyd normal".
Bu farw Huw Jones, oedd 33 oed ac yn dad newydd, ym mis Chwefror.
Roedd wedi bod yn ymgyrchu i sicrhau fod cyffur zanidatamab ar gael i bob claf â cholangiocarsinoma, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel canser dwythell y bustl (bile duct).
Yn wreiddiol, fe wnaeth corff gwarchod gwariant y GIG wrthod y driniaeth ar gyfer defnydd eang yn y GIG yn y canllawiau drafft cychwynnol.
Mae disgwyl i swyddogion o'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (Nice) gyfarfod ym mis Mawrth i asesu'r dystiolaeth ar y driniaeth yn ôl elusen cholangiocarsinoma AMMF.
Fe gafodd Mr Jones ddiagnosis cam 4 o cholangiocarsinoma yn 2024 ar ôl profi poen yn ei dorso wrth ymarfer ar gyfer triathlon.
Fe ddechreuodd gymryd zanidatamab fel rhan o dreial clinigol ym mis Ionawr 2025, sef yr un mis â genedigaeth ei fab, Idris.
Mae ei deulu o'r farn na fyddent wedi gallu treulio blwyddyn gyda'i gilydd fel teulu o dri heb zanidatamab.
Fe ddywedodd Mr Jones yn flaenorol fod "ei gyflwr wedi gwella llawer ers i mi ddechra zanidatamab.
"Mae rhai o fy nhiwmorau wedi lleihau mewn maint, ac roeddwn i'n gallu lleihau faint o forffin roeddwn i’n ei gymryd i leddfu poen.
"Mae llawer yn llai o sgil effeithiau o gymharu â dewisiadau amgen cemotherapi, dwi ddim yn teimlo mor flinedig a dwi'n gallu parhau i wneud ymarfer corff."
Fe ddywedodd hefyd nad oedd y penderfyniad i wrthod y driniaeth yn gwneud synnwyr iddo, ac fe wnaeth alw ar Nice i adolygu eu hargymhelliad.
Yn dilyn marwolaeth Mr Jones, fe wnaeth ei bartner Cadi Rowlands gefnogi ei ymgyrch i gael y cyffur wedi ei gymeradwyo ar gyfer defnydd gan y GIG.
Fe gafodd ei alwadau eu cefnogi hefyd gan Gareth Honeybone o Sheffield sydd hefyd yn byw â'r canser.
Fe gafodd Mr Honeybone, sydd yn llawfeddyg gyda'r GIG, ddiagnosis yn 27 oed.
Cafodd ei diwmor ei dynnu trwy lawdriniaeth ac fe gafodd gwrs o gemotherapi ac fe ddaeth yn holliach, ond fe gafodd tiwmor newydd ei ddarganfod ym mis Awst 2024.
Wedi iddo gael triniaethau cemotherapi ac imiwnotherapi, fe ddechreuodd gymryd zanidatamab ym mis Ionawr 2025 drwy dreial clinigol.
Mae sganiau bellach yn dangos nad yw'r tiwmor yn weladwy.
Dywedodd Mr Honeybone, sydd bellach yn 31: "Dwi'n un o'r rhai lwcus, yn byw bywyd arferol eto, ac mae hynny oherwydd zanidatamab."
Dywedodd elusen AMMF fod data o'r treial clinigol yn dangos fod cleifion sy'n derbyn y cyffur wedi goroesi cyfartaledd o 18.1 mis o'i gymharu â 6.2 mis i'r rhai a oedd yn derbyn triniaeth amgen ar hyn o bryd.
Mae'r driniaeth, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Ziihera, yn un gwrthgorff (antibody) ar gyfer cleifion sydd â lefel yn uwch na'r arferol o brotein o'r enw HER2, sydd yn ysgogi tiwmorau i dyfu.
Mae'n cael ei argymell am ddefnydd pan nad oes modd tynnu'r canser drwy lawdriniaeth, neu pan y mae'r canser wedi lledaenu neu wedi ei drin yn y gorffennol gydag o leiaf un feddyginiaeth canser arall.
Dywedodd pennaeth polisi ac ymchwil AMMF, Paul Howard: "Er ein bod ni'n cydnabod nad yw argymhelliad Nice i wrthod y defnydd o zanidatamab yn y GIG yn derfynol, mae dal yn hynod o siomedig.
"Mae derbyn diagnosis o cholangiocarcinoma yn eich llorio."
Dywedodd llefarydd ar ran Nice: "Rydym yn gwybod fod y penderfyniad dros dro yn siomedig i bobl â chanser y llwybr bustl datblygedig a’u teuluoedd.
"Rydym yn deall pa mor bwysig ydi hi i gael mwy o opsiynau triniaeth a fyddai'n gallu helpu pobl i fyw yn hirach a chynnal ansawdd eu bywyd."
Ychwanegodd y llefarydd fod y dystiolaeth yn awgrymu fod zanidatamab yn debygol o helpu i bobl fyw yn hirach ac i oedi gwaethygiad i'r canser.
Ond fe ddywedodd y pwyllgor hefyd nad oedd modd iddyn nhw wneud "argymhelliad cadarnhaol yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y cwmni yn y cyfarfod cyntaf."